|
|
(2 Cronicl 36:22-23)
1 Llai na blwyddyn ar ôl i Cyrus ddod yn frenin Persia, Ref dyma'r ARGLWYDD yn gwneud beth wnaeth e addo drwy Jeremeia. Ref Dyma fe'n ysgogi Cyrus i anfon datganiad allan drwy'r deyrnas i gyd. Dyma'r datganiad: 2 “Dyma mae Cyrus, brenin Persia yn ei ddweud. ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, wedi rhoi teyrnasoedd y byd i gyd i mi. Ac mae e wedi gorchymyn i mi adeiladu teml iddo yn Jerwsalem yn Jwda. 3 Os ydych chi'n perthyn i'w bobl cewch fynd yn ôl i Jerwsalem i adeiladu teml yno i'r ARGLWYDD, Duw Israel – sef y duw sydd yn Jerwsalem. A Duw fyddo gyda chi! 4 Dylai pawb arall, sy'n aros lle rydych chi, helpu'r rhai sy'n mynd yn ôl, drwy roi arian ac aur, cyfarpar ac anifeiliaid iddyn nhw. Hefyd offrymau gwirfoddol ar gyfer teml Dduw yn Jerwsalem.’”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity