ESRA 10
Y bobl yn cyffesu eu bod wedi pechu
1 Tra oedd Esra yn gweddïo ac yn cyffesu, ac yn crio ar ei hyd ar lawr o flaen teml Dduw, roedd tyrfa fawr o bobl Israel – dynion, merched, a phlant – wedi casglu o'i gwmpas. Roedden nhw i gyd yn beichio crio.
2 A dyma Shechaneia fab Iechiel, o deulu Elam, yn dweud wrth Esra:
“Dŷn ni wedi bod yn anffyddlon i Dduw yn priodi merched y bobloedd eraill sy'n byw yma. Ac eto mae gobaith i Israel er gwaetha'r cwbl.
3 Gad i ni wneud ymrwymiad i'n Duw i yrru'r gwragedd yma a'u plant i ffwrdd, fel rwyt ti a'r rhai eraill sy'n parchu gorchmynion Duw yn cynghori. Gad i ni wneud hynny fel mae'r Gyfraith yn dweud.
4 Tyrd, mae'n rhaid i ti wneud rhywbeth am y sefyllfa. Bwrw iddi. Dŷn ni tu cefn i ti.”
5 Felly dyma Esra yn codi a chael arweinwyr yr offeiriaid a'r Lefiaid a phobl Israel i gyd i addo gwneud hyn. A dyma nhw i gyd yn addo ar lw y bydden nhw'n ufuddhau.
6 Yna dyma Esra yn gadael y deml, a mynd i aros yn ystafell Iehochanan fab Eliashif. Wnaeth e ddim bwyta na hyd yn oed yfed dŵr tra oedd e yno; roedd e mor drist fod y bobl ddaeth yn ôl o'r gaethglud wedi bod mor anffyddlon.
7 Yna cafodd cyhoeddiad ei anfon allan drwy Jwda a Jerwsalem, yn galw ar bawb ddaeth yn ôl o'r gaethglud i ddod at ei gilydd yn Jerwsalem.
8 Byddai'r rhai oedd ddim yno o fewn tri diwrnod yn colli eu heiddo i gyd. Dyna oedd penderfyniad y swyddogion a'r arweinwyr. Byddai'r bobl hynny yn cael eu diarddel o gymdeithas y rhai ddaeth yn ôl o'r gaethglud.
9 Felly daeth pawb o Jwda a Benjamin at ei gilydd i Jerwsalem o fewn tri diwrnod (ar yr ugeinfed diwrnod o'r nawfed mis Ref ). Roedden nhw i gyd yn sefyll yn y sgwâr o flaen teml yr ARGLWYDD. Roedd pawb yn nerfus iawn, ac yn crynu yn y glaw.
10 Yna dyma Esra'r offeiriad yn sefyll i'w hannerch nhw, “Dych chi wedi bod yn anffyddlon, yn cymryd merched y bobloedd eraill yn wragedd. Mae hyn wedi gwneud Israel yn fwy euog fyth o flaen Duw!
11 Mae'n bryd i chi anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw eich tadau, a gwneud beth mae e eisiau. Rhaid i chi dorri pob cysylltiad gyda'r bobl a'r gwragedd paganaidd yma.”
12 A dyma pawb oedd yno yn ateb gyda'i gilydd, “Iawn, rhaid i ni wneud fel ti'n dweud!
13 Ond mae yna lot fawr ohonon ni, ac mae'n glawio'n drwm. Allwn ni ddim sefyll allan yma. Dydy'r mater ddim yn mynd i gael ei setlo mewn rhyw ddiwrnod neu ddau, am fod gormod ohonon ni wedi pechu yn hyn o beth.
14 Gall y penaethiaid weithredu ar ran pawb. Wedyn gosod dyddiad penodol i bob tref, i bawb yn y dref honno sydd wedi cymryd gwragedd o blith y bobloedd eraill, i ddod yma. Gall arweinwyr a barnwyr y dref ddod gyda nhw, nes bydd Duw ddim mor ffyrnig hefo ni am beth wnaethon ni.”
15 (Yr unig rai oedd yn erbyn y cynllun yma oedd Jonathan fab Asahel a Iachseia fab Ticfa, gyda cefnogaeth Meshwlam a Shabbethai y Lefiad.)
16 Felly aeth y bobl yn eu blaenau gyda'r cynllun. Dyma Esra'r offeiriad yn dewis dynion oedd yn arweinwyr yn eu clan, a'u rhestru nhw wrth eu henwau. A dyma nhw'n dechrau mynd ati i ddelio gyda'r mater ar ddiwrnod cynta'r degfed mis. Ref
17 Roedd hi'n ddiwrnod cynta'r flwyddyn Ref ganlynol erbyn iddyn nhw orffen delio gyda'r holl ddynion oedd wedi priodi gwragedd paganaidd.
Y dynion oedd wedi priodi gwragedd paganaidd
Offeiriaid
18 Dyma restr o'r offeiriaid oedd wedi cymryd gwragedd paganaidd:
- O deulu Ieshŵa fab Iotsadac a'i frodyr: Maaseia, Elieser, Iarîf a Gedaleia.
19 (Dyma nhw'n addo gyrru eu gwragedd i ffwrdd, ac yn cyflwyno hwrdd yn offrwm i gyfaddef eu bai.Croes)
- 20 O deulu Immer: Chanani a Sebadeia
- 21 O deulu Charîm: Maaseia, Eliâ, Shemaia, Iechiel ac Wseia.
- 22 O deulu Pashchwr: Elioenai, Maaseia, Ishmael, Nethanel, Iosafad, ac Elasa.
Lefiaid
- 23 O'r Lefiaid: Iosafad, Shimei, Celaia (sef Celita), Pethacheia, Jwda ac Elieser.
Cantorion
- 24 O'r cantorion: Eliashif.
Gofalwyr y giatiau
- O'r rhai oedd yn gofalu am y giatiau: Shalwm, Telem ac Wri.
Pobl eraill
25 Yna pobl gyffredin Israel:
- O deulu Parosh: Rameia, Iesïa, Malcîa, Miamin, Eleasar, Malcîa a Benaia.
- 26 O deulu Elam: Mataneia, Sechareia, Iechiel, Afdi, Ieremoth ac Eliâ.
- 27 O deulu Sattw: Elioenai, Eliashif, Mataneia, Ieremoth, Safad ac Asisa.
- 28 O deulu Bebai: Iehochanan, Chananeia, Sabbai, ac Athlai.
- 29 O deulu Bani: Meshwlam, Malŵch, Adaia, Iashŵf, Sheal a Ieremoth.
- 30 O deulu Pachath-Moab: Adna, Celal, Benaia, Maaseia, Mataneia, Betsalel, Binnŵi a Manasse.
- 31 O deulu Charîm: Elieser, Ishïa, Malcîa, Shemaia, Simeon,
32 Benjamin, Malŵch, a Shemareia.
- 33 O deulu Chashŵm: Matenai, Matata, Safad, Eliffelet, Ieremai, Manasse a Shimei.
- 34 O deulu Bani: Maadai, Amram, Ŵel,
35 Benaia, Bedeia, Celwhw,
36 Faneia, Meremoth, Eliashif,
37 Mataneia, Matenai, a Iaäsai.
- 38 O deulu Binnŵi: Shimei,
39 Shelemeia, Nathan, Adaia,
40 Machnadebai, Shashai, Sharai,
41 Asarel, Shelemeia, Shemareia,
42 Shalwm, Amareia, a Joseff.
- 43 O deulu Nebo: Jeiel, Matitheia, Safad, Sefina, Iadai, Joel a Benaia.
44 Roedd y rhain i gyd wedi cymryd gwragedd paganaidd, ac roedd rhai ohonyn nhw wedi cael plant gyda'r gwragedd hynny.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity