ESRA 2
Rhestr o'r bobl ddaeth yn ôl
(Nehemeia 7:4-73)
1 Dyma restr o bobl y dalaith ddaeth allan o Babilon. Cawson nhw eu cymryd yn gaeth yno gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Daeth pob un yn ôl i Jerwsalem ac i'r trefi eraill yn Jwda lle roedden nhw'n arfer byw.
2 Yr arweinwyr oedd Serwbabel, Ieshŵa, Nehemeia, Seraia, Reëlaia, Mordecai, Bilshan, Mispar, Bigfai, Rechwm a Baana.
Dyma faint o bobl Israel ddaeth yn ôl:
- 3 Teulu Parosh: 2,172
- 4 Teulu Sheffateia: 372
- 5 Teulu Arach: 775
- 6 Teulu Pachath-Moab (o deuluoedd Ieshŵa a Joab): 2,812
- 7 Teulu Elam: 1,254
- 8 Teulu Sattw: 945
- 9 Teulu Saccai: 760
- 10 Teulu Bani: 642
- 11 Teulu Bebai: 623
- 12 Teulu Asgad: 1,222
- 13 Teulu Adonicam: 666
- 14 Teulu Bigfai: 2,056
- 15 Teulu Adin: 454
- 16 Teulu Ater (sef disgynyddion Heseceia): 98
- 17 Teulu Betsai: 323
- 18 Teulu Iora: 112
- 19 Teulu Chashŵm: 223
- 20 Teulu Gibbar: 95
- 21 Dynion Bethlehem: 123
- 22 Dynion Netoffa: 56
- 23 Dynion Anathoth: 128
- 24 Dynion Asmafeth: 42
- 25 Dynion Ciriath-iearîm, Ceffira a Beëroth: 743
- 26 Dynion Rama a Geba: 621
- 27 Dynion Michmas: 122
- 28 Dynion Bethel ac Ai: 223
- 29 Pobl Nebo: 52
- 30 Pobl Magbish: 156
- 31 Pobl yr Elam arall: 1,254
- 32 Pobl Charîm: 320
- 33 Pobl Lod, Hadid ac Ono: 725
- 34 Pobl Jericho: 345
- 35 Pobl Senaâ: 3,630
36 Yr offeiriaid:
- Teulu Idaïa (o linach Ieshŵa): 973
- 37 Teulu Immer: 1,052
- 38 Teulu Pashchwr: 1,247
- 39 Teulu Charîm: 1,017
40 Y Lefiaid:
- Teulu Ieshŵa a Cadmiel (o deulu Hodafiâ): 74
41 Y cantorion:
42 Gofalwyr y giatiau:
- Teuluoedd Shalwm, Ater, Talmon, Accwf, Chatita a Shobai: 139
43 Gweision y deml:
- Teulu Sicha
- Teulu Chaswffa
- Teulu Tabbaoth
- 44 Teulu Ceros
- Teulu Sïaha
- Teulu Padon
- 45 Teulu Lebana
- Teulu Hagaba
- Teulu Accwf
- 46 Teulu Hagab
- Teulu Shalmai
- Teulu Chanan
- 47 Teulu Gidel
- Teulu Gachâr
- Teulu Reaia
- 48 Teulu Resin
- Teulu Necoda
- Teulu Gassam
- 49 Teulu Wssa
- Teulu Paseach
- Teulu Besai
- 50 Teulu Asna
- Teulu Mewnîm
- Teulu Neffwsîm
- 51 Teulu Bacbwc
- Teulu Chacwffa
- Teulu Charchwr
- 52 Teulu Batslwth
- Teulu Mechida
- Teulu Charsha
- 53 Teulu Barcos
- Teulu Sisera
- Teulu Temach
- 54 Teulu Netsïach
- Teulu Chatiffa.
55 Teuluoedd gweision Solomon:
- Teulu Sotai
- Teulu Hassoffereth
- Teulu Perwda
- 56 Teulu Jala
- Teulu Darcon
- Teulu Gidel
- 57 Teulu Sheffateia
- Teulu Chattil
- Teulu Pochereth-hatsbaîm
- Teulu Ami
58 Cyfanswm gweision y deml a theuluoedd gweision Solomon: 392
59 Daeth pobl eraill o drefi Tel-melach, Tel-harsha, Cerwb, Adon, ac Immer hefyd (ond doedd y rhain ddim yn gallu profi eu bod nhw a'u teuluoedd yn dod o Israel yn wreiddiol):
- 60 Teulu Delaia, teulu Tobeia a theulu Necoda: 652
61 Wedyn teuluoedd yr offeiriaid, sef teuluoedd Hafaia, Hacots, a Barsilai (dyn oedd wedi priodi un o ferched Barsilai o Gilead, ac wedi cymryd ei enw).
62 Roedd y rhain hefyd wedi chwilio am gofnod o'u teuluoedd yn y rhestrau achau ac wedi methu ffeindio dim byd. Felly cawson nhw eu rhwystro rhag gwasanaethu fel offeiriaid.
63 Dwedodd y llywodraethwr Ref nad oedden nhw i gael bwyta'r bwyd oedd wedi'i gysegru nes byddai offeiriad yn codi oedd yn gallu penderfynu drwy ddefnyddio'r Wrim a'r Thwmim.Croes
64 Cyfanswm y bobl aeth yn ôl oedd 42,360,
65 (heb gyfri'r 7,337 o weision a morynion oedd ganddyn nhw. Roedd yna 200 o gantorion – dynion a merched – gyda nhw hefyd).
66 Roedd ganddyn nhw 736 o geffylau, 245 o fulod,
67 435 o gamelod a 6,720 o asynnod.
68 Pan gyrhaeddon nhw deml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, dyma rhai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu'n hael tuag at ailadeiladu teml Dduw ar ei safle wreiddiol.
69 Rhoddodd pob un gymaint ag y gallen nhw ei fforddio tuag at y gwaith: tua 500 cilogram o aur, Ref 2,800 cilogram arian, Ref a 100 o wisgoedd i'r offeiriaid.
70 Felly dyma'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau a gweision y deml i gyd yn setlo i lawr yn eu trefi eu hunain. Ac aeth gweddill pobl Israel yn ôl i fyw i'w trefi hwythau hefyd.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity