ESRA 3
Ailadeiladu'r allor, a dechrau aberthu
1 Roedd pobl Israel i gyd wedi setlo i lawr yn eu trefi. Yna yn y seithfed mis Ref dyma pawb yn dod at ei gilydd i Jerwsalem.
2 A dyma Ieshŵa fab Iotsadac a'r offeiriaid oedd gydag e, a Serwbabel fab Shealtiel a'i ffrindiau, yn ailadeiladu allor Duw Israel. Wedyn gallen nhw ddod ag offrymau i'w llosgi a dilyn y cyfarwyddiadau roedd Duw wedi'u rhoi i Moses, ei broffwyd.
3 Er bod ganddyn nhw ofn y bobl leol, Ref dyma nhw'n gosod yr allor ar ei safle wreiddiol, a dechrau llosgi offrymau i'r ARGLWYDD arni bob bore a nos.
4 Dyma nhw'n dathlu Gŵyl y Pebyll, a chyflwyno'r nifer cywir o offrymau i'w llosgi bob dydd, fel roedd y cyfarwyddiadau'n dweud.Croes
5 Wedyn dyma nhw'n dod â'r offrymau arferol oedd i'w llosgi – yr offrymau misol ar ŵyl y lleuad newydd,Croes a'r offrymau ar gyfer y gwyliau eraill pan oedd pobl yn dod at ei gilydd i addoli; a hefyd yr offrymau roedd pobl yn eu rhoi yn wirfoddol.
6 Dechreuon nhw losgi offrymau i'r ARGLWYDD ar ddiwrnod cynta'r seithfed mis. Ond doedd y gwaith o ailadeiladu teml yr ARGLWYDD ddim wedi dechrau eto.
Dechrau ailadeiladu'r Deml
7 Felly dyma'r bobl yn rhoi arian i gyflogi seiri maen a seiri coed i weithio ar y Deml. A dyma nhw'n prynu coed cedrwydd gan bobl Sidon a Tyrus a thalu am y rheiny gyda cyflenwad o fwyd, diodydd ac olew olewydd. Roedden nhw'n dod â'r coed i lawr o fryniau Libanus i'r arfordir, ac yna ar rafftiau i borthladd Jopa. Ref Roedd y Brenin Cyrus o Persia wedi rhoi caniatâd i hyn ddigwydd.
8 Dyma'r gwaith o adeiladu teml Dduw yn dechrau flwyddyn a mis ar ôl iddyn nhw ddod yn ôl o Babilon i Jerwsalem. Serwbabel fab Shealtiel a Ieshŵa fab Iotsadac ddechreuodd y gwaith, gyda'r offeiriaid, y Lefiaid, a phawb arall oedd wedi dod yn ôl i Jerwsalem o'r gaethglud. A dyma nhw'n penodi Lefiaid oedd dros ugain oed i arolygu'r gwaith oedd yn cael ei wneud ar deml yr ARGLWYDD.
9 Dyma Ieshŵa yn penodi ei feibion a'i berthnasau ei hun, Cadmiel a Binnŵi (sef meibion Hodafïa), i fod yn gyfrifol am y gweithwyr. Hefyd meibion Chenadad, a'u meibion nhw, a'u perthnasau o lwyth Lefi.
10 Pan gafodd sylfeini teml yr ARGLWYDD eu gosod, dyma'r offeiriaid yn eu gwisgoedd seremonïol yn canu utgyrn, a'r Lefiaid (sef meibion Asaff) yn taro symbalau, i foli'r ARGLWYDD. Roedden nhw'n dilyn y drefn roedd Dafydd, brenin Israel, wedi'i gosod.
11 Roedden nhw'n canu mewn antiffoni, wrth foli ac addoli'r ARGLWYDD:
“Mae e mor dda aton ni;
Mae ei haelioni i Israel yn ddiddiwedd!”
A dyma'r dyrfa i gyd yn gweiddi'n uchel a moli'r ARGLWYDD am fod sylfeini'r deml wedi'u gosod.
12 Ond yng nghanol yr holl weiddi a'r dathlu, roedd llawer o'r offeiriaid, Lefiaid a'r arweinwyr hŷn yn beichio crio. Roedden nhw'n cofio'r deml fel roedd hi, pan oedd hi'n dal i sefyll.
13 Ond doedd neb wir yn gallu gwahaniaethu rhwng sŵn y dathlu a sŵn y crio. Roedd pobl yn gweiddi mor uchel roedd i'w glywed o bell.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity