ESRA 4
Gwrthwynebiad yn codi
1 Pan ddeallodd gelynion pobl Jwda a Benjamin fod y rhai ddaeth yn ôl o'r gaethglud wedi dechrau ailadeiladu teml i'r ARGLWYDD, Duw Israel,
2 dyma nhw'n mynd at Serwbabel a'r arweinwyr eraill, a dweud, “Gadewch i ni'ch helpu chi. Dŷn ni wedi bod yn addoli eich Duw chi ac yn aberthu iddo ers i Esar-chadon, Ref brenin Asyria, ein symud ni yma.”
3 Ond dyma Serwbabel, Ieshŵa ac arweinwyr eraill Israel yn ateb, “Na, gewch chi ddim helpu i adeiladu teml i'n Duw ni. Ni sy'n mynd i'w hadeiladu ein hunain, i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Mae Cyrus, brenin Persia, wedi gorchymyn i ni wneud hynny.”
4 Yna dyma'r bobl leol yn dechrau creu trafferthion i bobl Jwda a gwneud iddyn nhw ddechrau colli plwc.
5 Roedden nhw'n breibio swyddogion y llywodraeth i achosi problemau a rhwystro'r gwaith rhag mynd yn ei flaen. Roedd hyn yn digwydd yr holl flynyddoedd y bu Cyrus yn frenin Persia, hyd gyfnod y Brenin Dareius. Ref
Gwrthwynebu ailadeiladu waliau'r ddinas dros hanner canrif yn ddiweddarach
6 Pan ddaeth Ahasferus yn frenin Ref dyma nhw'n dod â cyhuddiad arall yn erbyn pobl Jwda a Jerwsalem.
7 Ac wedyn pan oedd Artaxerxes Ref yn frenin ar Persia, dyma Bishlam, Mithredath, Tafél a'u cydweithwyr, yn ysgrifennu ato fe. Roedd y llythyr wedi'i ysgrifennu yn Aramaeg, ac yna ei gyfieithu. Ref
8 Dyma oedd y llythyr am Jerwsalem yn ei ddweud – wedi'i anfon at y Brenin Artaxerxes gan Rechwm yr uwch-swyddog a Shimshai yr ysgrifennydd:
9 “Llythyr oddi wrth Rechwm yr uwch-swyddog, Shimshai yr ysgrifennydd, a'u cydweithwyr – yn farnwyr, arolygwyr, swyddogion, ac ysgrifenyddion. Hefyd pobl Erech, Babilon, a Shwshan (sef yr Elamiaid),
10 a phawb arall gafodd eu symud i fyw yn Samaria a threfi Traws-Ewffrates gan y brenin mawr ac enwog, Ashwrbanipal.” Ref
11 (Mae hwn yn gopi o'r llythyr gafodd ei anfon:)
“At y Brenin Artaxerxes, oddi wrth dy weision yn Traws-Ewffrates.
12 Dylai'r brenin wybod fod yr Iddewon ddaeth aton ni yma oddi wrthoch chi wedi mynd i Jerwsalem, ac maen nhw'n ailadeiladu'r ddinas wrthryfelgar, afiach yna. Maen nhw bron â gorffen y waliau, ac yn trwsio ei sylfeini.
13 A dylai'r brenin sylweddoli y bydd ar ei golled os bydd y gwaith yma'n cael ei orffen. Fydd dim mwy o drethi na thollau yn cael eu talu ganddyn nhw wedyn!
14 Fel rhai sy'n deyrngar i'r brenin, Ref fydden ni ddim eisiau i'r brenin gael ei ddifrïo. Roedden ni eisiau iddo wybod am hyn,
15 er mwyn iddo orchymyn archwilio cofnodion ei ragflaenwyr. Bydd e'n darganfod wedyn fod Jerwsalem wedi achosi dim byd ond trwbwl i frenhinoedd a thaleithiau. Mae un helynt ar ôl y llall wedi codi o'i mewn o'r dechrau. A dyna'n union pam cafodd y ddinas ei dinistrio!
16 Felly, dŷn ni eisiau rhybuddio'r brenin, os bydd y ddinas yma'n cael ei hailadeiladu, a'r waliau yn cael eu gorffen, fydd e ddim yn gallu cadw rheolaeth ar y rhan yma o'i deyrnas yn Traws-Ewffrates.”
17 A dyma'r brenin yn anfon yr ateb yma:
“At Rechwm yr uwch-swyddog, Shimshai yr ysgrifennydd, a'u cydweithwyr yn Samaria a'r rhannau eraill o Traws-Ewffrates:
Cyfarchion!
18 Cafodd y llythyr wnaethoch chi ei anfon aton ni ei gyfieithu a'i ddarllen o mlaen i.
19 Felly dyma fi'n gorchymyn edrych i mewn i'r mater, a mae'n wir fod pobl y ddinas yma wedi achosi helynt i frenhinoedd o'r dechrau.
20 Mae brenhinoedd pwerus wedi bod yn teyrnasu dros Jerwsalem ac ardal gyfan Traws-Ewffrates, ac wedi bod yn derbyn trethi a thollau.
21 Felly dw i am i chi orchymyn fod y gwaith i stopio, ac na ddylai'r ddinas gael ei hailadeiladu nes bydda i wedi dweud fel arall.
22 Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud hyn. Dŷn ni ddim eisiau i'r frenhiniaeth fod ar ei cholled.”
23 Yn syth ar ôl i lythyr y Brenin Artaxerxes gael ei ddarllen i Rechwm, Shimshai a'u cydweithwyr, dyma nhw'n brysio draw at yr Iddewon yn Jerwsalem. Roedden nhw'n bygwth ymyrraeth filwrol os nad oedd y gwaith yn stopio.
Yn ôl i ailadeiladu'r deml yng nghyfnod Dareius Fawr
24 Felly roedd y gwaith o ailadeiladu teml Dduw yn Jerwsalem wedi dod i stop. Wnaeth y gwaith ddim ailddechrau hyd ail flwyddyn teyrnasiad y Brenin Dareius o Persia. Ref
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity