ESRA 8
Yr arweinwyr aeth yn ôl gydag Esra
1 Dyma'r penaethiaid, a'r bobl oedd yn perthyn i'w rhestrau teuluol nhw, ddaeth yn ôl gyda mi o Babilon. Artaxerxes oedd brenin Persia ar y pryd. Ref
- 2-3 Gershom, o deulu Phineas;
- Daniel, o deulu Ithamar;
- Chattwsh fab Shechaneia, o deulu'r brenin Dafydd;
- Sechareia, o deulu Parosh (a 150 o ddynion oedd wedi'u cofrestru yn ôl eu teuluoedd);
- 4 Elihoenai fab Seracheia, o deulu Pachath-Moab (a 200 o ddynion);
- 5 Shechaneia fab Iachasiel, o deulu Sattw Ref (a 300 o ddynion);
- 6 Efed fab Jonathan, o deulu Adin (a 50 o ddynion);
- 7 Ieshaia fab Athaleia, o deulu Elam (a 70 o ddynion);
- 8 Sebadeia fab Michael, o deulu Sheffateia (ac 80 o ddynion);
- 9 Obadeia fab Iechiel, o deulu Joab (a 218 o ddynion gydag e);
- 10 Shlomith fab Iosiffîa, o deulu Bani Ref (a 160 o ddynion gydag e);
- 11 Sechareia fab Bebai, o deulu Bebai (a 28 o ddynion);
- 12 Iochanan fab Haccatan, o deulu Asgad (a 110 o ddynion);
- 13 a'r rhai ddaeth wedyn, o deulu Adonicam. Eu henwau nhw oedd Eliffelet, Jeiel a Shemaia (a 60 o ddynion);
- 14 Wthai a Saccwr, o deulu Bigfai (a 70 o ddynion).
Esra'n dod o hyd i Lefiaid i weithio yn y deml
15 Dyma fi'n eu casglu nhw at ei gilydd wrth y gamlas sy'n rhedeg i Ahafâ. Buon ni'n gwersylla yno am dri diwrnod. Roedd pobl gyffredin ac offeiriaid yno gyda ni, ond dyma fi'n darganfod fod dim Lefiaid.
16 Felly dyma fi'n anfon am Elieser, Ariel, Shemaia, Elnathan, Iarîf, Elnathan, Nathan, Sechareia, a Meshwlam, oedd yn arweinwyr, ac am Ioiarîf ac Elnathan, oedd yn athrawon.
17 A dyma fi'n eu hanfon nhw at Ido, oedd yn bennaeth yn Casiffia. Dwedais wrthyn nhw am ofyn i Ido a'i berthnasau, oedd yn weision y deml, i anfon dynion aton ni fyddai'n gweithio yn nheml ein Duw.
18 Roedd Duw gyda ni, a dyma nhw'n anfon crefftwr aton ni o deulu Machli (mab Lefi ac ŵyr i Israel), sef Sherefeia. A daeth ei feibion a'i frodyr gydag e – 18 o ddynion i gyd.
19 Chashafeia hefyd, gyda Ieshaia, o deulu Merari, a'i frodyr a'i feibion e, sef 20 o ddynion.
20 A hefyd, rhai oedd yn weision y deml (y rhai roedd y Brenin Dafydd a'i swyddogion wedi'u penodi i helpu'r Lefiaid) – 220 ohonyn nhw. A dyma enwau pob un ohonyn nhw yn cael eu rhestru.
Y bobl yn ymprydio a gweddïo cyn cychwyn ar eu taith
21 Yna dyma fi'n galw ar bawb oedd yno, wrth Gamlas Ahafâ, i ymprydio a plygu o flaen ein Duw, a gofyn iddo roi siwrnai saff i ni a'n plant a'n holl eiddo.
22 Doedd gen i mo'r wyneb i ofyn i'r brenin roi milwyr a marchogion i'n hamddiffyn ni ar y ffordd. Wedi'r cwbl, roedden ni wedi dweud wrth y brenin, “Mae Duw'n gofalu am bawb sy'n ei geisio, ond mae'n ddig iawn hefo pawb sy'n troi cefn arno.”
23 Felly buon ni'n ymprydio a gweddïo'n daer ar Dduw am hyn, a dyma fe'n ein hateb ni.
Anrhegion i'r deml
24 Yna dyma fi'n dewis un deg dau o arweinwyr yr offeiriaid, a hefyd Sherefeia, Chashafeia a deg o'u perthnasau.
25 Dyma fi'n pwyso'r arian, yr aur a'r llestri oedd i fynd i deml ein Duw a rhoi'r cwbl yn eu gofal nhw (sef y pethau roedd y brenin, ei gynghorwyr a'i swyddogion, a phawb o bobl Israel oedd yn Babilon, wedi'i gyfrannu):
- 26 – 22 tunnell o arian;
- – Llestri arian oedd yn pwyso 3.4 tunnell;
- – 3.4 tunnell o aur;
- 27 – 20 powlen aur yn pwyso 8.4 cilogram;
- – Dau lestr rhyfeddol o gain wedi'u gwneud o bres wedi'i loywi, mor werthfawr ag aur.
28 Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Dych chi wedi'ch cysegru i'r ARGLWYDD, yn union fel mae'r llestri yma wedi'u cysegru. Offrwm gwirfoddol i'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ydy'r arian a'r aur yma.
29 Dw i eisiau i chi ofalu amdano nes byddwch chi'n pwyso'r cwbl o flaen arweinwyr yr offeiriaid, y Lefiaid, a phenaethiaid teuluoedd Israel, yn stordai teml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem.”
30 Felly dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cymryd gofal o'r arian, yr aur a'r llestri oedd wedi cael eu pwyso, i fynd â nhw i deml ein Duw yn Jerwsalem.
Y daith yn ôl i Jerwsalem
31 Dyma ni'n dechrau ar y daith o Gamlas Ahafâ i Jerwsalem ar y deuddegfed diwrnod o'r mis cyntaf. Ref Roedd Duw gyda ni, a dyma fe'n ein hachub ni rhag ein gelynion a rhag lladron ar y daith.
32 Ar ôl cyrraedd Jerwsalem dyma ni'n gorffwys am dri diwrnod.
33 Yna'r diwrnod wedyn dyma ni'n mynd i'r deml i bwyso'r arian a'r aur a'r llestri, a rhoi'r cwbl yng ngofal Meremoth fab Wreia, yr offeiriad. Roedd Eleasar fab Phineas gydag e, a dau Lefiad, sef Iosafad fab Ieshŵa a Noadeia fab Binnŵi.
34 Cafodd popeth ei gyfri, ei bwyso a'i gofnodi yn y fan a'r lle.
35 Yna dyma'r bobl oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud yn cyflwyno offrymau i'w llosgi i Dduw Israel – un deg dau o deirw dros bobl Israel i gyd, naw deg chwech hwrdd, a saith deg saith oen gwryw. Hefyd un deg dau bwch gafr yn offrwm dros bechod. Roedd y cwbl i gael ei losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD.
36 Wedyn dyma nhw'n cyflwyno gorchmynion y brenin i raglawiaid a llywodraethwyr Traws-Ewffrates, a gwnaeth y rheiny bopeth allen nhw i helpu'r bobl a'r gwaith ar deml Dduw.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity