GENESIS 10
Rhestr o'r cenhedloedd gwahanol
(1 Cronicl 1:5-23)
1 Dyma hanes teuluoedd meibion Noa – Shem, Cham a Jaffeth. (Ar ôl y dilyw cafodd y tri ohonyn nhw blant):
Disgynyddion Jaffeth
- 2 Meibion Jaffeth: Gomer, Magog, Madai, Iafan, Twbal, Meshech, a Tiras.
- 3 Disgynyddion Gomer oedd pobl Ashcenas, Riffath, a Togarma.
- 4 Disgynyddion Iafan oedd pobl Elisha, Tarshish, Cittim, a Dodanîm,
5 sef pobloedd yr arfordir a'r ynysoedd. Rhannodd y rhain yn genhedloedd gwahanol gyda'u tiroedd, a phob grŵp ethnig gyda'i iaith ei hun.
Disgynyddion Cham
- 6 Meibion Cham: Cwsh, Mitsraïm, Pwt, a Canaan.
- 7 Disgynyddion Cwsh oedd pobl Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabtecha. Disgynyddion Raama oedd pobl Sheba a Dedan.
8 Cafodd Cwsh fab arall o'r enw Nimrod. Nimrod oedd y concwerwr cyntaf.
9 Fe oedd yr heliwr gorau yn y byd i gyd. Dyna pam mae'r hen ddywediad yn dweud, “Mae fel Nimrod, yr heliwr gorau welodd yr ARGLWYDD.”
10 Dechreuodd ei ymerodraeth gyda dinasoedd Babel, Erech, Accad a Calne yng ngwlad Babilonia. Ref
11 Wedyn lledodd ei ymerodraeth i Asyria, ac adeiladodd ddinasoedd Ninefe, Rehoboth-ir, Cala,
12 a Resen (sydd rhwng Ninefe a dinas fawr Cala).
- 13 Disgynyddion Mitsraïm oedd y Lydiaid, Anamiaid, Lehabiaid (pobl Libia), Nafftwiaid,
14 Pathrwsiaid, Caslwchiaid (y daeth y Philistiaid ohonyn nhw), a'r Cafftoriaid.
- 15 Disgynyddion Canaan oedd pobl Sidon (o'i fab hynaf), yr Hethiaid,
16 y Jebwsiaid, Amoriaid, Girgasiaid,
17 Hefiaid, Arciaid, Siniaid,
18 Arfadiaid, Semariaid, a phobl Chamath. Cafodd llwythau'r Canaaneaid eu gwasgaru
19 nes bod eu ffiniau nhw yn estyn o Sidon yr holl ffordd i Gerar ac i fyny i Gasa, ac wedyn yr holl ffordd i Sodom, Gomorra, Adma, a Seboïm, mor bell â Lesha.
20 Felly dyna ddisgynyddion Cham yn ôl eu llwythau, ieithoedd, tiroedd a chenhedloedd.
Disgynyddion Shem
- 21 Cafodd Shem, brawd hynaf Jaffeth, feibion hefyd. Shem oedd tad disgynyddion Eber i gyd.
- 22 Meibion Shem: Elam, Ashŵr, Arffacsad, Lwd, ac Aram.
- 23 Disgynyddion Aram oedd pobl Us, Chwl, Gether, a Mash.
- 24 Arffacsad oedd tad Shelach, a Shelach oedd tad Eber.
25 Roedd gan Eber ddau fab – cafodd un ei alw'n Peleg, am mai dyna pryd y cafodd ieithoedd y byd eu rhannu. Ref Yna enw ei frawd oedd Ioctan.
26 Disgynyddion Ioctan oedd pobl Almodad, Sheleff, Chatsar-mafeth, Ierach,
27 Hadoram, Wsal, Dicla,
28 Obal, Abima-el, Sheba,
29 Offir, Hafila, a Iobab. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ioctan.
30 Roedden nhw'n byw ar y tir rhwng Mesha a bryniau Seffar yn y dwyrain.
31 Felly dyna ddisgynyddion Shem, yn ôl eu llwythau, ieithoedd, tiroedd a chenhedloedd.
32 Dyna'r llwythau ddaeth o feibion Noa, wedi'u rhestru yn eu cenhedloedd yn ôl eu hachau. Ar ôl y dilyw dyma nhw'n rhannu i wneud gwahanol genhedloedd yn y byd.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity