GENESIS 11
Tŵr Babel
1 Ar un adeg, un iaith oedd drwy'r byd i gyd. Roedd pawb yn defnyddio'r un geiriau.
2 Pan oedd y bobl yn symud o le i le yn y dwyrain, dyma nhw'n dod i dir gwastad yn Babilonia Ref ac yn setlo yno.
3 Ac medden nhw, “Gadewch i ni wneud brics wedi'u tanio'n galed i'w defnyddio i adeiladu.” (Roedden nhw'n defnyddio brics yn lle cerrig, a tar yn lle morter.)
4 “Dewch,” medden nhw, “gadewch i ni adeiladu dinas fawr i ni'n hunain, gyda thŵr uchel yn estyn i fyny i'r nefoedd. Byddwn ni'n enwog, a fydd dim rhaid i ni gael ein gwasgaru drwy'r byd i gyd.”
5 A dyma'r ARGLWYDD yn dod i lawr i edrych ar y ddinas a'r tŵr roedd y bobl yn eu hadeiladu.
6 Ac meddai, “Maen nhw wedi dechrau gwneud hyn am eu bod nhw'n un bobl sy'n siarad yr un iaith. Does dim byd yn eu rhwystro nhw rhag gwneud beth bynnag maen nhw eisiau.
7 Dewch, gadewch i ni fynd i lawr a chymysgu eu hiaith nhw, fel na fyddan nhw'n deall ei gilydd yn siarad.”
8 Felly dyma'r ARGLWYDD yn eu gwasgaru nhw drwy'r byd i gyd, a dyma nhw'n stopio adeiladu'r ddinas.
9 Roedd y ddinas yn cael ei galw yn Babel am mai dyna ble wnaeth yr ARGLWYDD gymysgu Ref ieithoedd pobl, a'u gwasgaru drwy'r byd.
O Shem i Abram
(1 Cronicl 1:24-27)
10 Dyma hanes teulu Shem:
- Pan oedd Shem yn gant oed, cafodd ei fab Arffacsad ei eni. (Roedd hyn ddwy flynedd ar ôl y dilyw.)
11 Buodd Shem fyw am 500 mlynedd ar ôl i Arffacsad gael ei eni, a chafodd blant eraill.
- 12 Pan oedd Arffacsad yn 35 oed, cafodd ei fab Shelach ei eni.
13 Buodd Arffacsad fyw am 403 o flynyddoedd ar ôl i Shelach gael ei eni, a chafodd blant eraill.
- 14 Pan oedd Shelach yn 30 oed, cafodd ei fab Eber ei eni.
15 Buodd Shelach fyw am 403 o flynyddoedd ar ôl i Eber gael ei eni, a chafodd blant eraill.
- 16 Pan oedd Eber yn 34 oed, cafodd ei fab Peleg ei eni.
17 Buodd Eber fyw am 430 mlynedd ar ôl i Peleg gael ei eni, a chafodd blant eraill.
- 18 Pan oedd Peleg yn 30 oed, cafodd ei fab Reu ei eni.
19 Buodd Peleg fyw am 209 o flynyddoedd ar ôl i Reu gael ei eni, a chafodd blant eraill.
- 20 Pan oedd Reu yn 32 oed, cafodd ei fab Serwg ei eni.
21 Buodd Reu fyw am 207 o flynyddoedd ar ôl i Serwg gael ei eni, a chafodd blant eraill.
- 22 Pan oedd Serwg yn 30 oed, cafodd ei fab Nachor ei eni.
23 Buodd Serwg fyw am 200 mlynedd ar ôl i Nachor gael ei eni, a chafodd blant eraill.
- 24 Pan oedd Nachor yn 29 oed, cafodd ei fab Tera ei eni.
25 Buodd Nachor fyw am 119 mlynedd ar ôl i Tera gael ei eni, a chafodd blant eraill.
- 26 Pan oedd Tera yn 70 oed, roedd ganddo dri mab – Abram, Nachor a Haran.
Teulu Tera
27 Dyma hanes teulu Tera:
Tera oedd tad Abram, Nachor a Haran. Haran oedd tad Lot.
28 Pan fuodd Haran farw yn Ur yn Babilonia, Ref lle cafodd ei eni, roedd ei dad Tera yn dal yn fyw.
29 Priododd y ddau frawd arall. Sarai oedd enw gwraig Abram, a Milca oedd enw gwraig Nachor (Roedd hi'n un o ferched Haran, ac enw ei chwaer oedd Isca).
30 Roedd Sarai yn methu cael plant.
31 Dyma Tera yn gadael Ur yn Babilonia gyda'r bwriad o symud i wlad Canaan. Aeth ag Abram ei fab gydag e, Sarai ei ferch-yng-nghyfraith a hefyd Lot ei ŵyr (sef mab Haran). Ond ar ôl cyrraedd Haran dyma nhw'n setlo yno.
32 Yn Haran y buodd Tera farw, yn 205 oed.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity