GENESIS 15
Ymrwymiad Duw ag Abram
1 Rywbryd wedyn, dyma'r ARGLWYDD yn siarad ag Abram mewn gweledigaeth, “Paid bod ag ofn Abram. Fi ydy dy darian di. Byddi'n derbyn gwobr fawr.”
2 Ond meddai Abram, “O Feistr, ARGLWYDD, beth ydy'r pwynt os bydda i'n marw heb gael mab? Elieser o Ddamascus Ref fydd yn cael popeth sydd gen i!
3 Dwyt ti ddim wedi rhoi plant i mi, felly caethwas sydd wedi bod gyda mi ers iddo gael ei eni fydd yn etifeddu'r cwbl!”
4 Ond dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Na, dim hwn fydd yn cael dy eiddo di. Dy fab naturiol di dy hun fydd yn etifeddu dy eiddo di.”
5 A dyma'r ARGLWYDD yn mynd ag Abram allan, a dweud wrtho, “Edrych i fyny i'r awyr. Cyfra faint o sêr sydd yna, os fedri di! Fel yna fydd dy ddisgynyddion di – yn gwbl amhosib i'w cyfri.”
6 Credodd Abram yr ARGLWYDD, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gydag e.
7 Wedyn dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi dod â ti yma o Ur yn Babilonia. Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i ti.”
8 Ond dyma Abram yn gofyn, “O Feistr, ARGLWYDD, sut alla i fod yn siŵr dy fod ti'n mynd i'w rhoi i mi?”
9 Yna dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Tyrd â heffer, gafr a hwrdd yma – pob un ohonyn nhw'n dair blwydd oed – a hefyd turtur a cholomen ifanc.”
10 Dyma Abram yn dod â'r tri anifail, yn eu hollti nhw ar eu hyd, a yn gosod y ddau ddarn gyferbyn â'i gilydd. Ond wnaeth e ddim hollti'r adar yn eu hanner.
11 Pan oedd fwlturiaid yn dod i lawr ar y cyrff roedd Abram yn eu hel nhw i ffwrdd.
12 Ond gyda'r nos, pan oedd hi'n machlud, dyma Abram yn syrthio i gysgu'n drwm. A daeth tywyllwch a dychryn ofnadwy drosto.
13 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dw i eisiau i ti ddeall y bydd dy ddisgynyddion yn cael eu hunain yn byw fel ffoaduriaid mewn gwlad ddieithr. Byddan nhw'n cael eu gwneud yn gaethweision, ac yn cael eu cam-drin am bedwar can mlynedd.
14 Ond bydda i'n cosbi'r genedl fydd wedi'u gwneud nhw'n gaethweision, ac wedyn byddan nhw'n gadael y wlad honno gyda lot fawr o eiddo.
15 (Ond byddi di dy hun yn cael bywyd hir, braf cyn i ti farw a chael dy gladdu.)
16 Bydd dy ddisgynyddion yn dod yn ôl yma wedi pedair cenhedlaeth. Dydy'r holl ddrwg mae'r Amoriaid yn ei wneud ddim ar ei waethaf eto.”
17 Pan oedd yr haul wedi machlud a hithau'n dywyll, dyma grochan tân oedd yn mygu a ffagl oedd yn llosgi yn pasio rhwng y darnau o'r anifeiliaid.
18 Y diwrnod hwnnw dyma'r ARGLWYDD yn gwneud ymrwymiad gydag Abram: “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di – y tir i gyd o afon yr Aifft i afon fawr Ewffrates.
19 Tir y Ceneaid, Cenesiaid, Cadmoniaid,
20 Hethiaid, Peresiaid, Reffaiaid,
21 Amoriaid, Canaaneaid, Girgasiaid, a'r Jebwsiaid.”
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity