GENESIS 16
Ishmael yn cael ei eni
1 Doedd Sarai, gwraig Abram, ddim yn gallu cael plant. Ond roedd ganddi forwyn o'r enw Hagar, o wlad yr Aifft.
2 A dyma Sarai yn dweud wrth Abram, “Dydy'r ARGLWYDD ddim wedi gadael i mi gael plant, felly dw i am i ti gysgu gyda fy morwyn i. Falle y ca i blant drwyddi hi.” A dyma Abram yn gwneud beth ddwedodd Sarai wrtho.
3 Felly dyma Sarai, gwraig Abram, yn rhoi Hagar, ei morwyn Eifftaidd, yn wraig i Abram. Roedd hyn ddeg mlynedd ar ôl i Abram symud i fyw i Canaan.
4 Ar ôl i Abram gysgu gyda Hagar dyma hi'n beichiogi. Pan sylweddolodd hi ei bod hi'n disgwyl babi dechreuodd Hagar edrych i lawr ar ei meistres.
5 Dyma Sarai'n dweud wrth Abram, “Arnat ti mae'r bai mod i'n cael fy ngham-drin fel yma! Gwnes i adael i ti gysgu gyda hi, ond pan welodd hi ei bod hi'n disgwyl babi dyma hi'n dechrau edrych i lawr arna i. Boed i'r ARGLWYDD ddangos pwy sydd ar fai!”
6 Ond atebodd Abram, “Gan mai dy forwyn di ydy hi, gwna di beth wyt ti eisiau gyda hi.” Felly dyma Sarai yn dechrau ei cham-drin hi, a dyma Hagar yn rhedeg i ffwrdd.
7 Daeth angel yr ARGLWYDD o hyd iddi wrth ymyl ffynnon yn yr anialwch, sef y ffynnon sydd ar y ffordd i Shwr.
8 “Hagar, forwyn Sarai,” meddai wrthi, “o ble wyt ti wedi dod? I ble ti'n mynd?” A dyma Hagar yn ateb, “Dw i wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth Sarai, fy meistres.”
9 Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn dweud wrthi, “Dos adre at dy feistres, a bydd yn ufudd iddi.”
10 Wedyn aeth ymlaen i ddweud, “Fydd hi ddim yn bosib cyfri dy ddisgynyddion di; bydd cymaint ohonyn nhw.”
11 A dyma'r angel yn dweud wrthi:
“Ti'n feichiog, ac yn mynd i gael mab.
Rwyt i roi'r enw Ishmael Ref iddo,
’
am fod yr
ARGLWYDD wedi gweld beth wyt ti wedi'i ddiodde.
12 Ond bydd dy fab yn ymddwyn fel asyn gwyllt.
Bydd yn erbyn pawb, a bydd pawb yn ei erbyn e.
Bydd hyd yn oed yn tynnu'n groes i'w deulu ei hun.”
13 Dyma Hagar yn galw'r ARGLWYDD oedd wedi siarad â hi yn El-roi (sef ‛y Duw sy'n edrych arna i‛). “Ydw i wir wedi gweld y Duw sy'n edrych ar fy ôl i?” meddai. (0v 14 A dyna pam y cafodd y ffynnon ei galw yn Beër-lachai-roi. Ref Mae hi rhwng Cadesh a Bered.)
’
15 Cafodd Hagar ei babi – mab i Abram. A dyma Abram yn ei alw yn Ishmael.
16 (Roedd Abram yn 86 oed pan gafodd Ishmael ei eni.)
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity