GENESIS 22
Duw yn profi ffydd Abraham
1 Beth amser wedyn dyma Duw yn rhoi Abraham ar brawf. “Abraham!” meddai Duw. “Ie, dyma fi,” atebodd Abraham.
2 Ac meddai Duw wrtho, “Plîs, cymer dy fab Isaac – yr unig fab sydd gen ti, yr un rwyt ti'n ei garu – a dos i ardal Moreia. Yno dw i am i ti ei ladd a llosgi ei gorff yn offrwm ar un o'r mynyddoedd. Bydda i'n dangos i ti pa un.”
3 Dyma Abraham yn codi'n fore, torri coed ar gyfer llosgi'r offrwm, a'u rhoi ar gefn ei asyn. Aeth â dau o'i weision ifanc gydag e, a hefyd ei fab, Isaac. A dechreuodd ar y daith i ble roedd Duw wedi dweud wrtho.
4 Ar ôl teithio am ddeuddydd, roedd Abraham yn gweld pen y daith yn y pellter.
5 Dwedodd wrth ei weision, “Arhoswch chi yma gyda'r asyn tra bydda i a'r bachgen yn mynd draw acw. Dŷn ni'n mynd i addoli Duw, ac wedyn down ni'n ôl atoch chi.”
6 Dyma Abraham yn rhoi'r coed ar gefn ei fab, Isaac. Wedyn cymerodd y tân a'r gyllell, ac aeth y ddau yn eu blaenau gyda'i gilydd.
7 “Dad,” meddai Isaac wrth Abraham. “Ie, machgen i?” meddai Abraham. “Dad, mae gen ti dân a choed ar gyfer llosgi'r offrwm, ond ble mae'r oen sydd i gael ei aberthu?”
8 “Bydd Duw ei hun yn gwneud yn siŵr fod oen gynnon ni i'w aberthu, machgen i,” meddai Abraham. Felly dyma'r ddau yn mynd yn eu blaenau gyda'i gilydd.
9 Ar ôl cyrraedd y lle roedd Duw wedi sôn amdano, dyma Abraham yn adeiladu allor yno, ac yn gosod y coed ar yr allor. Wedyn dyma fe'n rhwymo ei fab Isaac ac yn ei roi i orwedd ar ben y coed ar yr allor.
10 Gafaelodd Abraham yn y gyllell, ac roedd ar fin lladd ei fab.
11 Ond dyma angel yr ARGLWYDD yn galw arno o'r nefoedd, “Abraham! Abraham!” “Ie? Dyma fi,” meddai Abraham.
12 “Paid cyffwrdd y bachgen, na gwneud dim byd iddo. Dw i'n gwybod bellach dy fod ti'n ddyn sy'n parchu Duw. Roeddet ti hyd yn oed yn fodlon aberthu dy fab i mi – yr unig fab sydd gen ti.”
13 Gwelodd Abraham hwrdd y tu ôl iddo. Roedd cyrn yr hwrdd wedi mynd yn sownd mewn drysni. Felly dyma Abraham yn cymryd yr hwrdd a'i losgi yn offrwm i Dduw yn lle ei fab.
14 Galwodd Abraham y lle yn “Yr ARGLWYDD sy'n darparu”. Ref Mae pobl yn dal i ddweud heddiw, “Mae'r ARGLWYDD yn darparu beth sydd ei angen ar ei fynydd.” Ref
’
15 Dyma angel yr ARGLWYDD yn galw ar Abraham eto.
16 “Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n addo hyn ar fy llw: Am dy fod ti wedi gwneud beth wnest ti (roeddet ti'n fodlon aberthu dy fab i mi – yr unig fab sydd gen ti),
17 dw i'n mynd i dy fendithio di go iawn a rhoi cymaint o ddisgynyddion i ti ag sydd o sêr yn yr awyr. Byddan nhw fel y tywod ar lan y môr. Byddan nhw'n concro dinasoedd eu gelynion.
18 Drwy dy ddisgynyddion di bydd cenhedloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio, am dy fod ti wedi gwneud beth ddwedais i.’”
19 Felly, aeth Abraham yn ôl at ei weision, a dyma nhw'n teithio gyda'i gilydd i Beersheba, lle gwnaeth Abraham setlo.
Disgynyddion Nachor
20 Beth amser wedyn dwedodd rhywun wrth Abraham fod Milca, gwraig ei frawd Nachor, wedi cael plant hefyd.
21 Us oedd y mab hynaf, wedyn ei frawd Bws, wedyn Cemwel tad Aram,
22 ac wedyn Cesed, Chaso, Pildash, Idlaff a Bethwel.
23 (Bethwel oedd tad Rebeca.) Roedd yr wyth yma yn blant i Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham.
24 Ond roedd gan Nachor bartner Ref arall o'r enw Rŵma, a chafodd hi blant hefyd, sef Tefach, Gachâm, Tachash a Maacha.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity