GENESIS 23
Sara yn marw
1-2 Bu farw Sara yn 127 oed, yn Ciriath-arba (sef Hebron), yn Canaan. A buodd Abraham yn galaru ac yn wylo drosti.
3 Yna dyma Abraham yn codi a mynd i siarad â disgynyddion Heth,
4 “Mewnfudwr ydw i, yn byw dros dro yn eich plith chi. Wnewch chi werthu darn o dir i mi i gladdu fy ngwraig?”
5 A dyma ddisgynyddion Heth yn ateb,
6 “Wrth gwrs, syr. Rwyt ti fel tywysog pwysig yn ein golwg ni. Dewis y bedd gorau sydd gynnon ni i gladdu dy wraig ynddo. Byddai'n fraint gan unrhyw un ohonon ni i roi ei fedd i ti gladdu dy wraig.”
7 Dyma Abraham yn codi ar ei draed ac yn ymgrymu o flaen y bobl leol, sef disgynyddion Heth.
8 Yna dwedodd wrthyn nhw, “Os ydych chi'n hapus i mi gladdu fy ngwraig yma, wnewch chi berswadio Effron fab Sochar
9 i werthu'r ogof yn Machpela i mi? Mae'r ogof ar ei dir e, reit ar y ffin. Gwna i dalu'r pris llawn iddo amdani yma, o'ch blaen chi, er mwyn i mi gael lle i gladdu fy ngwraig.”
10 Roedd Effron yn eistedd yno ar y pryd, ac meddai wrth Abraham o flaen pawb oedd yno wrth giât y ddinas,
11 “Na, gwranda syr. Dw i'n fodlon gwerthu'r darn hwnnw o dir i gyd i ti, a'r ogof sydd arno. Dw i'n dweud hyn o flaen fy mhobl yma. Dw i'n hapus i ti ei gymryd i gladdu dy wraig.”
12 A dyma Abraham yn ymgrymu eto o flaen y bobl leol.
13 “Iawn,” meddai wrth Effron o flaen pawb, “dw i'n cytuno. Dw i'n fodlon talu am y darn tir hefyd. Cei faint bynnag rwyt ti eisiau amdano, er mwyn i mi gael lle i gladdu fy ngwraig.”
14 Dyma Effron yn ateb,
15 “Syr. Beth am 400 sicl o arian? Dydy hynny'n ddim byd i ddynion fel ti a fi. Wedyn cei gladdu dy wraig.”
16 Felly dyma Abraham yn cytuno i'w dalu. A dyma Abraham yn pwyso'r swm o arian oedd wedi'i gytuno o flaen tystion, a'i roi i Effron, sef 400 darn o arian yn ôl mesur safonol y cyfnod.
17 Felly prynodd Abraham y tir gan Effron. Roedd yn Machpela, i'r dwyrain o Mamre. Cafodd yr ogof oedd arno a'r coed oedd o fewn ei ffiniau.
18 Roedd disgynyddion Heth, a phawb arall oedd wrth giât y ddinas, yn dystion i'r cytundeb.
19 Ar ôl prynu'r tir, dyma Abraham yn claddu Sara ei wraig yn yr ogof oedd yno, yn Machpela ger Mamre (sef Hebron) yng ngwlad Canaan.
20 Cafodd y tir a'r ogof oedd arno eu gwerthu i Abraham gan ddisgynyddion Heth, iddo gladdu ei deulu yno.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity