GENESIS 24
Gwraig i Isaac
1 Roedd Abraham yn ddyn hen iawn. Roedd yr ARGLWYDD wedi'i fendithio ym mhob ffordd.
2 Un diwrnod dyma Abraham yn dweud wrth ei brif was (sef yr un oedd yn gyfrifol am bopeth oedd ganddo), “Dw i am i ti fynd ar dy lw, Ref
3 ac addo i mi o flaen yr ARGLWYDD, Duw'r nefoedd a'r ddaear, na fyddi di'n cymryd un o ferched Canaan i fod yn wraig i'm mab i.
4 Dw i eisiau i ti fynd i'm gwlad i, at fy mherthnasau, i chwilio am wraig i Isaac.”
5 Meddai'r gwas, “Beth os bydd y ferch yn gwrthod dod yn ôl yma gyda mi? Ddylwn i wedyn fynd â dy fab di yn ôl i'r wlad honno?”
6 “Na,” meddai Abraham, “gwna di'n siŵr na fyddi byth yn mynd a'm mab i yn ôl yno.
7 Yr ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, ydy'r un wnaeth i mi adael cartref fy nhad a'm teulu. Mae wedi dweud wrtho i, ac wedi addo i mi, ‘Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di.’ Bydd e'n anfon ei angel i ofalu amdanat ti, er mwyn i ti ffeindio gwraig i'm mab i yno.
8 Os bydd y ferch yn gwrthod dod gyda ti, fydda i ddim yn dy ddal di'n gyfrifol i gadw dy lw. Ond paid byth â mynd â'm mab i yn ôl yno.”
9 Felly dyma'r gwas yn addo ar lw y byddai'n gwneud yn union fel roedd ei feistr wedi dweud wrtho.
10 Cymerodd y gwas ddeg o gamelod ei feistr wedi'u llwytho â phob math o anrhegion, ac aeth i ffwrdd i dref Nachor yng Ngogledd Mesopotamia. Ref
11 Gwnaeth i'r camelod orwedd wrth y pydew dŵr oedd tu allan i'r dre. (Roedd hi'n hwyr yn y p'nawn, sef yr amser y byddai'r merched yn mynd allan i godi dŵr.)
12 Dyma'r gwas yn gweddïo, “O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, arwain fi heddiw. Cadw dy addewid i'm meistr.
13 Dw i'n sefyll wrth ymyl y ffynnon yma, ac mae merched y dre yn dod allan i godi dŵr.
14 Dw i am ofyn i un o'r merched ifanc, ‘Wnei di godi dŵr i mi gael yfed?’ Gad i'r un rwyt ti wedi'i dewis i fod yn wraig i dy was Isaac ddweud, ‘Gwnaf wrth gwrs! Gad i mi roi dŵr i dy gamelod di hefyd.’ Bydda i'n gwybod wedyn dy fod ti wedi cadw dy addewid i'm meistr.”
15 Cyn iddo orffen gweddïo roedd Rebeca wedi cyrraedd yno yn cario jwg dŵr ar ei hysgwydd. Roedd Rebeca'n ferch i Bethwel (oedd yn fab i Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham).
16 Roedd hi'n ferch arbennig o hardd, yn ei harddegau, a doedd hi erioed wedi cael rhyw. Aeth i lawr at y pydew, llenwi ei jwg, a dod yn ôl i fyny.
17 Yna dyma'r gwas yn brysio draw ati a gofyn iddi, “Ga i ychydig o ddŵr i'w yfed gen ti?”
18 “Wrth gwrs, syr,” meddai. A dyma hi'n tynnu'r jwg i lawr oddi ar ei hysgwydd ac yn rhoi diod iddo.
19 Ar ôl gwneud hynny, dyma hi'n dweud, “Gad i mi godi dŵr i dy gamelod di hefyd, nes byddan nhw wedi cael digon i'w yfed.”
20 Felly dyma hi'n gwagio'r dŵr oedd ganddi yn ei jwg i'r cafn anifeiliaid, a mynd yn ôl at y pydew i godi mwy o ddŵr. A gwnaeth hynny nes oedd hi wedi codi digon o ddŵr i'r camelod i gyd.
21 Ddwedodd y gwas ddim byd. Roedd yn sefyll yno yn syllu arni, i weld a oedd yr ARGLWYDD wedi rhoi taith lwyddiannus iddo ai peidio.
22 Pan oedd y camelod wedi gorffen yfed, dyma'r gwas yn rhoi modrwy drwyn werthfawr i'r ferch ifanc, a dwy freichled aur gostus hefyd.
23 Gofynnodd iddi, “Merch pwy wyt ti? Fyddai gan dy dad le i ni aros dros nos?”
24 Atebodd hithau, “Dw i'n ferch i Bethwel, mab Milca a Nachor.
25 Mae gynnon ni ddigon o wellt a bwyd i'r camelod, a lle i chithau aros dros nos.”
26 Dyma'r gwas yn plygu i lawr ac yn addoli'r ARGLWYDD.
27 “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Abraham, fy meistr! Mae wedi bod yn gwbl ffyddlon i'w addewid. Mae'r ARGLWYDD wedi fy arwain i gartref teulu fy meistr!”
28 Rhedodd y ferch ifanc adre at ei mam, a dweud wrthi hi a phawb arall oedd yno am beth oedd wedi digwydd.
29 Roedd gan Rebeca frawd o'r enw Laban, a dyma Laban yn brysio allan i gyfarfod y dyn wrth y pydew.
30 Ar ôl gweld y fodrwy drwyn a'r breichledau roedd ei chwaer Rebeca'n eu gwisgo, a chlywed beth roedd y dyn wedi'i ddweud wrthi, aeth allan ato ar unwaith. A dyna lle roedd y dyn, yn sefyll gyda'r camelod wrth y pydew.
31 Aeth ato a dweud, “Tyrd, ti sydd wedi dy fendithio gan yr ARGLWYDD. Pam wyt ti'n sefyll allan yma? Mae gen i le yn barod i ti yn y tŷ, ac mae lle i'r camelod hefyd.”
32 Felly dyma gwas Abraham yn mynd i'r tŷ. Cafodd y camelod eu dadlwytho, a dyma wellt a bwyd yn cael ei roi iddyn nhw. Cafodd y gwas a'r dynion oedd gydag e ddŵr i olchi eu traed.
33 Wedyn dyma fwyd yn cael ei baratoi iddyn nhw. Ond meddai'r gwas, “Dw i ddim am fwyta nes i mi ddweud pam dw i wedi dod yma.” “Iawn,” meddai Laban, “dywed wrthon ni.”
34 “Gwas Abraham ydw i,” meddai.
35 “Mae'r ARGLWYDD wedi bendithio fy meistr yn fawr. Mae'n ddyn cyfoethog iawn. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi defaid a gwartheg iddo, arian ac aur, gweision a morynion, camelod ac asynnod.
36 Cafodd Sara, gwraig fy meistr, fab iddo pan oedd hi'n hen iawn. Mae fy meistr wedi rhoi popeth sydd ganddo i'w fab.
37 Gwnaeth fy meistr i mi fynd ar fy llw, a dwedodd wrtho i, ‘Ti ddim i gymryd un o ferched y Canaaneaid, o'r wlad ble dw i'n byw, i fod yn wraig i'm mab i.
38 Dw i am i ti fynd yn ôl i gartref fy nhad, at fy mherthnasau, i chwilio am wraig i'm mab i.’
39 Dwedais wrth fy meistr, ‘Beth os bydd y ferch yn gwrthod dod gyda mi?’
40 Ond ei ateb oedd, ‘Bydd yr ARGLWYDD dw i'n ei wasanaethu yn anfon ei angel gyda ti, ac yn gwneud yn siŵr dy fod yn cael taith lwyddiannus. Dw i eisiau i ti ffeindio gwraig i'm mab o blith fy mherthnasau, o gartref fy nhad.
41 Os ei di at fy mherthnasau a hwythau'n gwrthod ei rhoi hi i ti, fydda i ddim yn dy ddal di yn gyfrifol. Byddi di'n rhydd o bob cyfrifoldeb.’
42 “Pan gyrhaeddais i'r pydew heddiw, dyma fi'n gweddïo, ‘O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, os wyt ti wir eisiau i mi fod yn llwyddiannus ar y daith yma, gad i hyn ddigwydd:
43 Dw i'n sefyll wrth ymyl y ffynnon yma. Dw i am ofyn i un o'r merched ifanc sy'n dod i godi dŵr, “Ga i ychydig ddŵr i'w yfed gen ti?”
44 Os bydd hi'n ateb, “Cei, wrth gwrs. Gad i mi godi dŵr i dy gamelod di hefyd,” – hi fydd y ferch mae'r ARGLWYDD wedi'i dewis i fod yn wraig i fab fy meistr.’
45 Rôn i'n dal i weddïo'n dawel pan gyrhaeddodd Rebeca â jwg dŵr ar ei hysgwydd. Aeth i lawr at y pydew i godi dŵr. A dyma fi'n gofyn iddi, ‘Plîs ga i ddiod o ddŵr gen ti.’
46 Dyma hi'n tynnu'r jwg i lawr oddi ar ei hysgwydd, a dweud, ‘Cei, wrth gwrs. Gad i mi roi dŵr i dy gamelod di hefyd.’ Ces i yfed, a dyma hi'n rhoi dŵr i'r camelod hefyd.
47 Wedyn dyma fi'n gofyn iddi, ‘Merch pwy wyt ti?’ Atebodd hithau, ‘Dw i'n ferch i Bethwel, mab Nachor a'i wraig Milca.’ Yna dyma fi'n rhoi'r fodrwy drwyn a'r breichledau iddi,
48 a plygu i addoli'r ARGLWYDD. Rôn i'n moli'r ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, am ei fod wedi fy arwain i at wyres ei frawd.
49 Dyna ddigwyddodd, felly beth amdani? Ydych chi'n mynd i fod yn garedig at fy meistr neu ddim? Dwedwch wrtho i, er mwyn i mi wybod beth i'w wneud nesa.”
50 Dyma Laban a Bethwel yn dweud, “Mae'r ARGLWYDD tu ôl i hyn i gyd. Does dim byd allwn ni ei ddweud.
51 Dyma Rebeca; dos â hi gyda ti. Mae'r ARGLWYDD wedi dangos ddigon clir mai hi sydd i fod yn wraig i fab dy feistr.”
52 Pan glywodd gwas Abraham hyn, plygodd yn isel o flaen yr ARGLWYDD.
53 Wedyn dyma fe'n estyn tlysau arian ac aur, a dillad, a'u rhoi i Rebeca. Rhoddodd anrhegion drud i'w brawd a'i mam hefyd.
54 Ar ôl gwneud hynny, dyma'r gwas a'r dynion oedd gydag e yn bwyta'r pryd bwyd, ac yn yfed, ac yn aros yno dros nos.
Ar ôl iddyn nhw godi y bore wedyn, dyma'r gwas yn dweud, “Gadewch i mi fynd yn ôl at fy meistr nawr.”
55 Ond dyma frawd a mam Rebeca'n ei ateb, “Gad i'r ferch aros gyda ni am ryw wythnos i ddeg diwrnod. Caiff fynd wedyn.”
56 Ond meddai'r gwas wrthyn nhw, “Peidiwch fy nal i nôl. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi taith lwyddiannus i mi. Gadewch i mi fynd yn ôl at fy meistr.”
57 “Beth am ei galw hi draw a gofyn beth mae hi'n feddwl?” medden nhw.
58 A dyma nhw'n galw Rebeca a gofyn iddi, “Wyt ti'n barod i fynd gyda'r dyn yma?” A dyma hi'n ateb, “Ydw.”
59 Felly dyma nhw'n ei hanfon hi i ffwrdd gyda'r forwyn oedd wedi'i magu, a gwas Abraham a'r dynion oedd gydag e.
60 Dyma nhw'n bendithio Rebeca a dweud wrthi,
“Boed i ti, ein chwaer, fod yn fam i filiynau!
Boed i dy ddisgynyddion di orchfygu eu gelynion i gyd.”
61 Felly i ffwrdd â Rebeca a'i morynion ar gefn y camelod gyda gwas Abraham.
62 Un noson roedd Isaac yn dod o gyfeiriad Beër-lachai-roi. (Roedd yn byw yn ardal y Negef yn y de.)
63 Aeth allan am dro gyda'r nos, a gwelodd gamelod yn dod i'w gyfeiriad.
64 Gwelodd Rebeca Isaac hefyd. Daeth i lawr o'i chamel
65 a gofyn i was Abraham, “Pwy ydy'r dyn acw sy'n dod i'n cyfeiriad ni?” Ac meddai'r gwas, “Fy meistr i ydy e.” Felly dyma Rebeca yn rhoi fêl dros ei hwyneb.
66 Dwedodd y gwas wrth Isaac am bopeth oedd wedi digwydd.
67 Ac aeth Isaac â Rebeca i mewn i babell ei fam Sara, a'i chymryd hi'n wraig iddo'i hun. Roedd e'n ei charu hi'n fawr, ac roedd yn hapus eto ar ôl colli ei fam.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity