|
|
(1 Cronicl 1:32-33)
1 Roedd Abraham wedi cymryd gwraig arall o'r enw Cetwra. 2 Hi oedd mam Simran, Iocsan, Medan, Midian, Ishbac a Shwach. 3 Iocsan oedd tad Sheba a Dedan. A disgynyddion Dedan oedd yr Ashwriaid, y Letwshiaid a'r Lewmiaid. 4 Wedyn meibion Midian oedd Effa, Effer, Chanoch, Abida ac Eldaä. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Cetwra. 5 Gadawodd Abraham bopeth oedd ganddo i'w fab Isaac. 6 Roedd wedi anfon meibion ei bartneriaid Ref eraill i ffwrdd i'r dwyrain, yn bell oddi wrth ei fab Isaac, ac wedi rhoi anrhegion iddyn nhw bryd hynny.(1 Cronicl 1:28-31)
12 Dyma hanes teulu Ishmael, y mab gafodd Abraham gan Hagar, morwyn Eifftaidd Sara: 13 Enwau meibion Ishmael, mewn trefn (o'r hynaf i'r ifancaf): Nebaioth oedd ei fab hynaf, wedyn Cedar, Adbe-el, Mifsam, 14 Mishma, Dwma, Massa, 15 Hadad, Tema, Ietwr, Naffish a Cedema. 16 Y rhain oedd meibion Ishmael, a chafodd y pentrefi ble roedden nhw'n byw eu henwi ar eu holau. Roedd y deuddeg ohonyn nhw yn benaethiaid ar eu llwythau. 17 Roedd Ishmael yn 137 oed pan fuodd farw a mynd at ei hynafiaid. 18 Roedd ei ddisgynyddion yn byw yn yr ardal rhwng Hafila a Shwr, sy'n ffinio â'r Aifft, i gyfeiriad Ashŵr. Roedd Ishmael yn tynnu'n groes i'w deulu ei hun.“Bydd dwy wlad yn dod o'r bechgyn yn dy groth.
Dau grŵp o bobl fydd yn erbyn ei gilydd.
Bydd un yn gryfach na'r llall,
a bydd y mab hynaf yn was i'r ifancaf.”
24 Dyma'r amser yn dod i'r gefeilliaid gael eu geni. 25 Daeth y cyntaf allan o'r groth yn gochlyd i gyd ac yn flewog fel dilledyn, felly dyma nhw'n ei alw yn Esau. Ref 26 Wedyn daeth y llall, yn cydio'n dynn yn sawdl Esau, felly dyma nhw'n ei alw yn Jacob. Ref Roedd Isaac yn 60 oed pan gawson nhw eu geni. ’ 27 Pan oedd y bechgyn wedi tyfu, roedd Esau yn heliwr gwych, wrth ei fodd yn mynd allan i'r wlad. Ond roedd Jacob yn fachgen tawel, yn hoffi aros gartref. 28 Esau oedd ffefryn Isaac, am ei fod yn mwynhau bwyta'r anifeiliaid roedd wedi'u hela. Ond Jacob oedd ffefryn Rebeca.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity