GENESIS 26
Isaac yn twyllo Abimelech
1 Roedd newyn yn y wlad (newyn gwahanol i'r newyn ddigwyddodd pan oedd Abraham yn fyw). A dyma Isaac yn mynd at Abimelech, brenin y Philistiaid, yn Gerar.
2 Dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos i Isaac a dweud wrtho, “Paid mynd i lawr i'r Aifft. Dos i'r wlad fydda i'n ei dangos i ti.
3 Aros yn y wlad honno. Bydda i gyda ti ac yn dy fendithio di. Dw i'n mynd i roi'r tiroedd yma i gyd i ti a dy ddisgynyddion. Dw i'n mynd i wneud beth wnes i ei addo i dy dad Abraham.
4 Bydd gen ti gymaint o ddisgynyddion ag sydd o sêr yn yr awyr. Dw i'n mynd i roi'r tiroedd yma i gyd i dy ddisgynyddion di. Drwy dy ddisgynyddion di bydd cenhedloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio.
5 Bydd hyn i gyd yn digwydd am fod Abraham wedi gwneud beth ddwedais i. Roedd yn dilyn y cyfarwyddiadau, ac yn cadw'r gorchmynion, yr arweiniad a'r ddysgeidiaeth rois i iddo.”
6 Felly dyma Isaac yn mynd i fyw i Gerar.
7 Roedd y dynion yno yn dangos diddordeb yn ei wraig. Felly dwedodd Isaac, “Fy chwaer i ydy hi.” (Roedd arno ofn dweud mai ei wraig oedd hi, rhag i'r dynion ei ladd er mwyn cael Rebeca. Roedd hi'n wraig hardd iawn.)
8 Pan oedd Isaac wedi bod yn byw yno am amser hir, dyma Abimelech, brenin y Philistiaid, yn digwydd edrych allan o ffenest a gweld Isaac yn anwesu ei wraig Rebeca.
9 Dyma Abimelech yn gofyn i Isaac fynd i'w weld, a dwedodd wrtho, “Felly, dy wraig di ydy hi go iawn! Pam wnest ti ddweud, ‘Fy chwaer i ydy hi’?” Atebodd Isaac, “Roedd gen i ofn i rywun fy lladd i er mwyn ei chael hi.”
10 “Beth yn y byd wyt ti'n meddwl ti'n wneud?” meddai Abimelech. “Gallai unrhyw un o'r dynion fod wedi cysgu hefo hi. Byddet ti wedi'n gwneud ni i gyd yn euog!”
11 Felly dyma Abimelech yn rhoi gorchymyn i'w bobl, “Os bydd unrhyw un yn cyffwrdd â'r dyn yma neu ei wraig, y gosb fydd marwolaeth.”
12 Dyma Isaac yn hau had ar y tir y flwyddyn honno a chafodd gnwd oedd gan gwaith cymaint yn ôl. Roedd yr ARGLWYDD yn ei fendithio.
13 Roedd yn ddyn llwyddiannus iawn, a daeth yn gyfoethog dros ben.
14 Roedd ganddo gymaint o ddefaid a gwartheg, a gweision, nes bod y Philistiaid yn genfigennus ohono.
15 Felly dyma'r Philistiaid yn llenwi'r pydewau dŵr i gyd gyda phridd. (Y pydewau oedd wedi cael eu cloddio gan weision Abraham pan oedd Abraham yn dal yn fyw.)
16 A dyma Abimelech yn dweud wrth Isaac, “Ti'n llawer cryfach na ni bellach, felly rhaid i ti adael ein gwlad ni.”
17 Felly dyma Isaac yn mynd ac yn gwersylla wrth Wadi Gerar.
18 Roedd Isaac wedi ailagor y pydewau dŵr gafodd eu cloddio pan oedd Abraham yn fyw (y rhai roedd y Philistiaid wedi'u llenwi ar ôl i Abraham farw), a galwodd nhw wrth yr enwau roddodd ei dad iddyn nhw'n wreiddiol.
19 Yna pan aeth gweision Isaac ati i gloddio pydewau yn y dyffryn, dyma nhw'n darganfod ffynnon lle roedd dŵr glân yn llifo drwy'r adeg.
20 Ond dechreuodd bugeiliaid Gerar ddadlau â gweision Isaac. “Ni piau'r dŵr,” medden nhw. Felly galwodd Isaac y ffynnon yn Esec, Ref am eu bod nhw wedi ffraeo gydag e.
’
21 Dyma nhw'n cloddio pydew arall, ac roedd dadlau am hwnnw hefyd. Felly galwodd Isaac hwnnw yn Sitna. Ref
’
22 Symudodd yn ei flaen a chloddio pydew arall, a fuodd dim dadlau am hwnnw, felly galwodd y pydew hwnnw yn Rehoboth. Ref “Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi digon o le i ni, a byddwn yn llwyddo yn y wlad,” meddai.
’
23 Aeth Isaac yn ei flaen o'r fan honno i Beersheba.
24 Y noson honno dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos iddo. Dwedodd wrtho, “Fi ydy Duw Abraham dy dad. Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Bydda i'n dy fendithio di ac yn rhoi lot fawr o ddisgynyddion i ti o achos Abraham fy ngwas.”
25 Felly dyma fe'n codi allor yno ac yn addoli'r ARGLWYDD. Gwersyllodd yno am gyfnod, a dyma'i weision yn cloddio pydew yno hefyd.
26 Dyma Abimelech yn dod ato o Gerar, gydag Achwsath ei gynghorwr a Pichol pennaeth ei fyddin.
27 Gofynnodd Isaac iddyn nhw, “Pam dych chi wedi dod yma? Dych chi'n fy nghasáu i, ac wedi fy anfon i ffwrdd oddi wrthych.”
28 Dyma nhw'n ateb, “Mae'n hollol amlwg i ni fod yr ARGLWYDD gyda ti. Felly dŷn ni eisiau gwneud cytundeb hefo ti.
29 Wnei di addo peidio ymosod arnon ni? Wnaethon ni ddim drwg i ti, dim ond da, a cefaist dy anfon i ffwrdd mewn heddwch. Mae'r ARGLWYDD wedi dy fendithio di.”
30 Felly dyma Isaac yn paratoi gwledd iddyn nhw, a dyma nhw'n bwyta ac yn yfed gyda'i gilydd.
31 Y bore wedyn dyma nhw'n codi'n gynnar ac yn gwneud cytundeb gyda'i gilydd. Wedyn dyma Isaac yn ffarwelio â nhw ar delerau da.
32 Y diwrnod hwnnw hefyd daeth gweision Isaac ato i ddweud wrtho eu bod wedi dod o hyd i ddŵr yn y pydew y buon nhw'n ei gloddio.
33 Galwodd Isaac y pydew yn Sheba. Ref Felly Beersheba Ref ydy enw'r lle hyd heddiw.
’
Esau yn priodi gwragedd estron
34 Pan oedd Esau yn 40 mlwydd oed, priododd Judith (merch Beëri'r Hethiad), a Basemath (merch Elon yr Hethiad).
35 Roedd y ddwy yn gwneud bywyd yn ddiflas iawn i Isaac a Rebeca.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity