|
|
“Melltith arnat ti am wneud hyn!
Ti fydd yr unig anifail dof neu wyllt sydd wedi dy felltithio.
Byddi'n llusgo o gwmpas ar dy fol
ac yn llyfu'r llwch drwy dy fywyd.
15 Byddi di a'r wraig yn elynion.
Bydd dy had di a'i had hi bob amser yn elynion.
Bydd e'n sathru dy ben di,
a byddi di'n taro ei sawdl e.”
16 Yna dyma fe'n dweud wrth y wraig:“Bydd cael plant yn waith llawer anoddach i ti;
byddi'n diodde poenau ofnadwy wrth eni plentyn.
Byddi di eisiau dy ŵr,
ond bydd e fel meistr arnat ti.”
17 Wedyn dyma fe'n dweud wrth Adda:“Rwyt ti wedi gwrando ar dy wraig
a bwyta ffrwyth y goeden rôn i wedi dweud amdani,
‘Paid bwyta ei ffrwyth hi.’
Felly mae'r ddaear wedi'i melltithio o dy achos di.
Bydd rhaid i ti weithio'n galed i gael bwyd bob amser.
18 Bydd drain ac ysgall yn tyfu ar y tir,
a byddi'n bwyta'r cnydau sy'n tyfu yn y caeau.
19 Bydd rhaid i ti weithio'n galed a chwysu i gael bwyd i fyw,
hyd nes i ti farw a mynd yn ôl i'r pridd.
Dyna o lle y daethost ti.
Pridd wyt ti, a byddi'n mynd yn ôl i'r pridd.”
20 Dyma'r dyn yn rhoi'r enw Efa Ref i'w wraig, am mai hi fyddai mam pob person byw. 21 Wedyn dyma'r ARGLWYDD Dduw yn gwneud dillad o grwyn anifeiliaid i Adda a'i wraig eu gwisgo. 22 A dyma'r ARGLWYDD Dduw yn dweud, “Mae dyn bellach yr un fath â ni, yn gwybod am bopeth – da a drwg. Rhaid peidio gadael iddo gymryd ffrwyth y goeden sy'n rhoi bywyd, neu bydd yn ei fwyta ac yn byw am byth.” 23 Felly dyma'r ARGLWYDD Dduw yn ei anfon allan o'r ardd yn Eden i drin y pridd y cafodd ei wneud ohono. 24 Pan gafodd y dyn ei daflu allan o'r ardd, gosododd Duw gerwbiaid ar ochr ddwyreiniol yr ardd yn Eden, a chleddyf tân yn chwyrlïo, i rwystro unrhyw un rhag mynd at y goeden sy'n rhoi bywyd.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity