GENESIS 31
Jacob yn dianc oddi wrth Laban
1 Clywodd Jacob fod meibion Laban yn cwyno amdano. “Mae Jacob wedi cymryd popeth oddi ar dad. Mae wedi dod yn gyfoethog ar draul ein tad ni!” medden nhw.
2 A daeth Jacob i weld fod agwedd Laban tuag ato wedi newid hefyd.
3 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jacob, “Dos yn ôl adre at dy deulu a dy bobl. Bydda i gyda ti.”
4 Felly dyma Jacob yn anfon rhywun i nôl Rachel a Lea, a dod â nhw allan i gefn gwlad lle roedd y preiddiau.
5 Dwedodd wrthyn nhw, “Dw i wedi sylwi fod agwedd eich tad tuag ata i wedi newid. Ond mae'r Duw mae fy nhad yn ei addoli wedi bod gyda mi.
6 Mae'r ddwy ohonoch yn gwybod mor galed dw i wedi gweithio i'ch tad.
7 Ond mae'ch tad wedi gwneud ffŵl ohono i, a newid fy nghyflog dro ar ôl tro. Ond wnaeth Duw ddim gadael iddo wneud niwed i mi.
8 Pan oedd yn dweud, ‘Y brychion fydd dy gyflog di,’ roedd yr anifeiliaid i gyd yn cael rhai bach oedd yn frych. Os oedd yn dweud, ‘Y brithion fydd dy gyflog di,’ roedd yr anifeiliaid yn cael rhai bach oedd yn frith.
9 Felly Duw oedd yn rhoi anifeiliaid eich tad i mi.
10 “Yn ystod y tymor bridio ces i freuddwyd. Roedd y bychod geifr oedd yn paru i gyd yn frithion.
11 A dyma angel Duw yn galw arna i. ‘Jacob,’ meddai. ‘Ie, dyma fi,’ meddwn innau.
12 ‘Edrych, mae'r bychod geifr sy'n paru i gyd yn frithion. Dw i wedi gweld sut mae Laban wedi dy drin di.
13 Fi ydy Duw Bethel, lle wnest ti dywallt olew ar y golofn a gwneud addewid i mi. Nawr dos! Dw i eisiau i ti adael y wlad yma a mynd yn ôl i'r wlad ble cest ti dy eni.’”
14 A dyma Rachel a Lea yn ei ateb, “Does dim rheswm i ni aros yma. Dŷn ni ddim yn mynd i dderbyn dim byd mwy gan ein tad.
15 Mae e'n ein trin ni fel tasen ni'n estroniaid. Mae wedi'n gwerthu ni, ac wedyn wedi gwastraffu a cholli'r cwbl gafodd e!
16 Mae Duw wedi rhoi popeth oedd ganddo i ni a'n plant. Felly gwna beth mae Duw wedi'i ddweud wrthot ti.”
17 Felly dyma Jacob yn paratoi i fynd. Rhoddodd ei blant a'i wragedd ar gefn camelod.
18 Casglodd ei anifeiliaid a'i eiddo i gyd (popeth a gafodd yn Padan-aram) i fynd adre at ei dad Isaac yn Canaan.
19 Ar y pryd roedd Laban wedi mynd i gneifio'i ddefaid. A dyma Rachel yn dwyn yr eilun-ddelwau teuluol.
20 Roedd Jacob hefyd wedi twyllo Laban yr Aramead drwy redeg i ffwrdd heb ddweud wrtho.
21 Rhedodd i ffwrdd gyda'i eiddo i gyd. Croesodd afon Ewffrates a mynd i gyfeiriad bryniau Gilead.
Laban yn mynd ar ôl Jacob
22 Ddeuddydd wedyn dyma Laban yn darganfod fod Jacob wedi mynd.
23 Felly aeth Laban a'i berthnasau ar ei ôl. Ar ôl teithio am wythnos roedden nhw bron â'i ddal ym mryniau Gilead.
24 Ond dyma Duw yn siarad â Laban yr Aramead mewn breuddwyd y noson honno. Dwedodd wrtho, “Paid ti dweud dim byd yn erbyn Jacob.”
25 Roedd Jacob wedi codi gwersyll ym mryniau Gilead pan ddaliodd Laban i fyny ag e. A dyma Laban a'i berthnasau yn gwersylla yno hefyd.
26 “Beth rwyt ti wedi'i wneud?” meddai Laban wrth Jacob. “Ti wedi fy nhwyllo i. Ti wedi cymryd fy merched i ffwrdd fel tasen nhw'n garcharorion rhyfel!
27 Pam wnest ti redeg i ffwrdd yn ddistaw bach heb i mi wybod? Pam wnest ti ddim dweud wrtho i? Byddwn i wedi trefnu parti i ffarwelio'n iawn, gyda chanu a dawnsio a cherddoriaeth.
28 Wnest ti ddim hyd yn oed roi cyfle i mi roi cusan i ffarwelio â'm merched a'u plant. Ti wedi gwneud peth hollol wirion.
29 Gallwn i wneud drwg i ti, ond dyma'r Duw mae dy dad yn ei addoli yn siarad â mi neithiwr. Dwedodd wrtho i, ‘Paid dweud dim byd yn erbyn Jacob.’
30 Dw i'n derbyn fod gen ti hiraeth go iawn am dy dad a'i deulu, ond pam roedd rhaid i ti ddwyn fy nuwiau?”
31 A dyma Jacob yn ei ateb, “Wnes i redeg i ffwrdd am fod arna i ofn. Rôn i'n meddwl y byddet ti'n cymryd dy ferched oddi arna i.
32 Bydd pwy bynnag sydd wedi cymryd dy dduwiau di yn marw! Dw i'n dweud hyn o flaen ein perthnasau ni i gyd. Dangos i mi beth sydd biau ti, a'i gymryd.” (Doedd Jacob ddim yn gwybod fod Rachel wedi'u dwyn nhw.)
33 Felly dyma Laban yn mynd i bebyll Jacob, Lea, a'r ddwy forwyn, ond methu dod o hyd i'r eilun-ddelwau. Daeth allan o babell Lea a mynd i babell Rachel.
34 (Ond roedd Rachel wedi cymryd yr eilun-ddelwau a'u rhoi nhw yn y bag cyfrwy ar ei chamel, ac yna eistedd arnyn nhw.) Dyma Laban yn chwilio drwy'r babell i gyd, ond methu dod o hyd iddyn nhw.
35 A dyma Rachel yn dweud wrth ei thad, “Maddau i mi, dad, am beidio codi i ti. Mae hi'r amser yna o'r mis Ref arna i.” Felly er iddo chwilio ym mhobman wnaeth e ddim dod o hyd i eilun-ddelwau'r teulu.
36 Erbyn hyn roedd Jacob wedi gwylltio, a dechreuodd ddadlau yn ôl. “Beth dw i wedi'i wneud o'i le?” meddai. “Beth dw i wedi'i wneud i bechu yn dy erbyn di? Pam wyt ti'n fy ymlid i fel yma?
37 Wyt ti wedi dod o hyd i rywbeth piau ti ar ôl palu drwy fy stwff i gyd? Os wyt ti, gad i dy berthnasau di a'm perthnasau i ei weld. Gad iddyn nhw setlo'r ddadl rhyngon ni.
38 Dw i wedi bod hefo ti ers ugain mlynedd. Dydy dy ddefaid a dy eifr di ddim wedi erthylu. Dw i ddim wedi cymryd hyrddod dy braidd di i'w bwyta.
39 Os oedd rhai wedi'u lladd gan anifeiliaid gwyllt, wnes i ddim dod â nhw atat ti er mwyn i ti dderbyn y golled. Wnes i gymryd y golled fy hun. Roeddet ti'n gwneud i mi dalu am unrhyw golled, sdim ots os oedd yn cael ei ddwyn yng ngolau dydd neu yn y nos.
40 Fi oedd yr un oedd yn gorfod diodde gwres poeth y dydd a'r barrug oer yn y nos. Fi oedd yr un oedd yn gorfod colli cwsg.
41 Dw i wedi gweithio fel caethwas i ti am ugain mlynedd. Roedd rhaid i mi weithio am un deg pedair blynedd i briodi dy ddwy ferch, a chwe blynedd arall am dy anifeiliaid. Ac rwyt ti wedi newid fy nghyflog i dro ar ôl tro.
42 Petai Duw Abraham, sef y Duw mae fy nhad Isaac yn ei addoli, ddim wedi bod gyda mi, byddet ti wedi fy anfon i ffwrdd heb ddim byd. Ond roedd Duw wedi gweld sut roeddwn i'n cael fy nhrin ac mor galed roeddwn i wedi gweithio. A dyna pam wnaeth e dy geryddu di neithiwr.”
Laban a Jacob yn gwneud cytundeb
43 Ac meddai Laban wrth Jacob, “Fy merched i ydy'r rhain, ac mae'r plant yma yn wyrion ac wyresau i mi. Fi piau'r preiddiau yma a phopeth arall rwyt ti'n weld. Ond sut alla i wneud drwg i'm merched a'u plant?
44 Tyrd, gad i'r ddau ohonon ni wneud cytundeb â'n gilydd. Bydd Duw yn dyst rhyngon ni.”
45 Felly dyma Jacob yn cymryd carreg a'i gosod fel colofn.
46 Ac meddai Jacob wrth ei berthnasau, “Casglwch gerrig.” Felly dyma nhw'n gwneud hynny ac yn eu codi'n garnedd, a chael pryd o fwyd gyda'i gilydd yno.
47 Galwodd Laban y garnedd yn Jegar-sahadwtha Ref a galwodd Jacob hi'n Gal-êd. Ref
48 “Mae'r garnedd yma yn dystiolaeth ein bod ni wedi gwneud cytundeb,” meddai Laban. Dyna pam mae'r lle'n cael ei alw yn Gal-êd.
49 Roedd y lle hefyd yn cael ei alw yn Mitspa, Ref am fod Laban wedi dweud, “Boed i'r ARGLWYDD ein gwylio ni'n dau pan na fyddwn ni'n gweld ein gilydd.
’
50 Os gwnei di gam-drin fy merched i neu briodi merched eraill, er bod neb arall yno, cofia fod Duw yn gweld popeth wnei di.”
51 Ac meddai, “Mae'r garnedd yma a'r golofn yma wedi'u gosod rhyngon ni.
52 Mae'r garnedd a'r golofn yn ein hatgoffa ni o hyn: Dw i ddim i ddod heibio'r lle yma i wneud drwg i ti, a ti ddim i ddod heibio'r fan yma i wneud drwg i mi.
53 Boed i dduwiau Abraham a Nachor, duwiau eu tad nhw, farnu rhyngon ni.” Felly dyma Jacob yn gwneud adduned i'r Duw roedd ei dad Isaac yn ei addoli.
54 A dyma fe'n cyflwyno aberth i Dduw ar y mynydd a gwahodd ei deulu i gyd i fwyta. A dyma nhw'n aros yno drwy'r nos.
55 Ref Yn gynnar y bore wedyn dyma Laban yn rhoi cusan i'w ferched a'u plant ac yn eu bendithio nhw cyn troi am adre.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity