GENESIS 37
Joseff yn breuddwydio am fod yn bwysig
1 A dyma Jacob yn setlo yn y rhan o wlad Canaan roedd ei dad wedi ymfudo iddi.
2 Dyma hanes teulu Jacob:
Pan oedd Joseff yn 17 oed, roedd gyda'i frodyr yn gofalu am y preiddiau. Llanc ifanc oedd e, yn gweithio gyda meibion Bilha a Silpa, gwragedd ei dad. Ond roedd yn cario straeon am ei frodyr i'w dad.
3 Roedd Israel yn caru Joseff fwy na'i feibion eraill i gyd, am fod Joseff wedi cael ei eni pan oedd e'n hen ddyn; ac roedd wedi gwneud côt sbesial iddo.
4 Ond roedd ei frodyr yn ei gasáu, am fod eu tad yn caru Joseff fwy na nhw. Doedden nhw ddim yn gallu dweud run gair caredig wrtho.
5 Ond wedyn cafodd Joseff freuddwyd. Pan ddwedodd wrth ei frodyr am y freuddwyd, roedden nhw'n ei gasáu e fwy fyth.
6 “Gwrandwch ar y freuddwyd yma ges i,” meddai wrthyn nhw.
7 “Roedden ni i gyd wrthi'n rhwymo ysgubau mewn cae. Yn sydyn dyma fy ysgub i yn codi a sefyll yn syth. A dyma'ch ysgubau chi yn casglu o'i chwmpas ac yn ymgrymu iddi!”
8 “Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n frenin neu rywbeth?” medden nhw. “Wyt ti'n mynd i deyrnasu droson ni?” Roedden nhw'n ei gasáu e fwy fyth o achos y freuddwyd a beth ddwedodd e wrthyn nhw.
9 Wedyn cafodd Joseff freuddwyd arall, a dwedodd am honno wrth ei frodyr hefyd. “Dw i wedi cael breuddwyd arall,” meddai. “Roedd yr haul a'r lleuad ac un deg un o sêr yn ymgrymu o mlaen i.”
10 Ond pan ddwedodd wrth ei dad a'i frodyr am y freuddwyd, dyma'i dad yn dweud y drefn wrtho. “Sut fath o freuddwyd ydy honna?” meddai wrtho. “Wyt ti'n meddwl fy mod i a dy fam a dy frodyr yn mynd i ddod ac ymgrymu o dy flaen di?”
11 Roedd ei frodyr yn genfigennus ohono; ond roedd ei dad yn cadw'r peth mewn cof.
Joseff yn cael ei werthu a'i gymryd i'r Aifft
12 Roedd ei frodyr wedi mynd ag anifeiliaid eu tad i bori wrth ymyl Sichem.
13 A dyma Israel yn dweud wrth Joseff, “Mae dy frodyr wedi mynd â'r praidd i bori i Sichem. Dw i eisiau i ti fynd yno i'w gweld nhw.” “Iawn, dw i'n barod,” meddai Joseff.
14 “Dos i weld sut maen nhw, a sut mae'r praidd,” meddai ei dad wrtho. “Wedyn tyrd yn ôl i ddweud wrtho i.” Felly dyma Joseff yn mynd o ddyffryn Hebron i Sichem.
Pan gyrhaeddodd Sichem
15 dyma ryw ddyn yn dod ar ei draws yn crwydro o gwmpas. Gofynnodd y dyn iddo, “Am beth ti'n chwilio?”
16 “Dw i'n edrych am fy mrodyr,” meddai Joseff. “Alli di ddweud wrtho i ble maen nhw wedi mynd â'r praidd i bori?”
17 A dyma'r dyn yn ateb, “Maen nhw wedi gadael yr ardal yma. Clywais nhw'n dweud eu bod yn mynd i Dothan.” Felly dyma Joseff yn mynd ar eu holau, ac yn dod o hyd iddyn nhw yn Dothan.
18 Roedden nhw wedi'i weld yn dod o bell, a chyn iddo gyrraedd dyma nhw'n cynllwynio i'w ladd.
19 “Edrychwch, mae'r breuddwydiwr mawr yn dod!” medden nhw.
20 “Gadewch i ni ei ladd. Gallwn ei daflu i bydew, a dweud fod anifail gwyllt wedi'i ladd. Cawn weld beth ddaw o'i freuddwydion wedyn!”
21 Dyma Reuben yn digwydd clywed beth ddwedon nhw, a llwyddodd i achub bywyd Joseff. “Na, gadewch i ni beidio â'i ladd,”
22 meddai wrthyn nhw. “Peidiwch tywallt gwaed. Taflwch e i mewn i'r pydew yma yn yr anialwch, ond peidiwch gwneud niwed iddo.” (Bwriad Reuben oedd achub Joseff, a mynd ag e yn ôl at ei dad.)
23 Felly pan ddaeth Joseff at ei frodyr, dyma nhw'n tynnu ei gôt oddi arno (y gôt sbesial roedd e'n ei gwisgo).
24 Wedyn dyma nhw'n ei daflu i mewn i'r pydew. (Roedd y pydew yn wag – doedd dim dŵr ynddo.)
25 Pan oedden nhw'n eistedd i lawr i fwyta, dyma nhw'n gweld carafán o Ismaeliaid yn teithio o gyfeiriad Gilead. Roedd ganddyn nhw gamelod yn cario gwm pêr, balm, a myrr i lawr i'r Aifft.
26 A dyma Jwda'n dweud wrth ei frodyr, “Dŷn ni'n ennill dim drwy ladd ein brawd a cheisio cuddio'r ffaith.
27 Dewch, gadewch i ni ei werthu e i'r Ismaeliaid acw. Ddylen ni ddim gwneud niwed iddo. Wedi'r cwbl, mae yn frawd i ni.” A dyma'r brodyr yn cytuno.
28 Felly pan ddaeth y masnachwyr o Midian heibio, dyma nhw'n tynnu Joseff allan o'r pydew a'i werthu i'r Ismaeliaid am 20 darn o arian. A dyma'r Ismaeliaid yn mynd â Joseff gyda nhw i'r Aifft.
29 Yn nes ymlaen dyma Reuben yn dod yn ôl at y pydew. Pan welodd fod Joseff ddim yno, dyma fe'n rhwygo'i ddillad.
30 Aeth at ei frodyr, a dweud, “Mae'r bachgen wedi mynd! Sut alla i fynd adre nawr?”
31 Yna dyma nhw'n cymryd côt Joseff, lladd gafr ac yna trochi'r gôt yng ngwaed yr anifail.
32 Wedyn dyma nhw'n mynd â'r gôt sbesial at eu tad, a dweud, “Daethon ni o hyd i hon. Pwy sydd biau hi? Ai côt dy fab di ydy hi neu ddim?”
33 Dyma Jacob yn nabod y gôt. “Ie, côt fy mab i ydy hi! Mae'n rhaid bod anifail gwyllt wedi ymosod arno a'i rwygo'n ddarnau!”
34 A dyma fe'n rhwygo'i ddillad a gwisgo sachliain. A buodd yn galaru am ei fab am amser hir.
35 Roedd ei feibion a'i ferched i gyd yn ceisio ei gysuro, ond roedd yn gwrthod codi ei galon. “Dw i'n mynd i fynd i'r bedd yn dal i alaru am fy mab,” meddai. Ac roedd yn beichio crio.
36 Yn y cyfamser, roedd y Midianiaid wedi gwerthu Joseff yn yr Aifft. Cafodd ei werthu i Potiffar, un o swyddogion y Pharo, a chapten ei warchodlu.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity