GENESIS 38
Jwda a Tamar
1 Tua'r adeg honno, dyma Jwda yn gadael ei frodyr ac yn ymuno â dyn o Adwlam o'r enw Chira.
2 Yno dyma fe'n cyfarfod ac yn priodi merch i ddyn o Canaan o'r enw Shwa. Cysgodd gyda hi,
3 a dyma hi'n beichiogi ac yn cael mab. Galwodd Jwda'r plentyn yn Er.
4 Wedyn dyma hi'n beichiogi eto ac yn cael mab arall, a'i alw yn Onan.
5 A chafodd fab arall eto a'i alw yn Shela. Roedd Jwda yn Chesib Ref pan gafodd hi'r plentyn hwnnw.
6 Dyma Jwda yn cael gwraig i Er, ei fab hynaf. Tamar oedd ei henw hi.
7 Ond roedd Er yn ddrwg, a dyma'r ARGLWYDD yn gadael iddo farw.
8 Felly dwedodd Jwda wrth Onan, brawd Er, “Dy le di ydy cymryd gwraig dy frawd Er, a magu teulu iddo.”
9 Ond roedd Onan yn gwybod na fyddai'r plant yn cael eu cyfri yn blant iddo fe. Felly bob tro roedd e'n cael rhyw gyda Tamar, roedd yn gwneud yn siŵr fod ei had ddim yn mynd iddi, rhag ofn iddi feichiogi. Doedd arno ddim eisiau rhoi plentyn i'w frawd.
10 Roedd beth wnaeth e'n ddrwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, felly dyma Duw yn gadael iddo fe farw hefyd.
11 Yna dyma Jwda yn dweud wrth Tamar, ei ferch-yng-nghyfraith, “Dos adre at dy dad, ac aros yn weddw nes bydd Shela, fy mab arall, wedi tyfu.” (Ond ofni i Shela farw hefyd, fel ei frodyr, oedd Jwda.) Felly aeth Tamar adre i fyw at ei thad.
12 Beth amser wedyn dyma wraig Jwda (sef merch Shwa) yn marw. Pan oedd y cyfnod i alaru drosodd, dyma Jwda a'i ffrind Chira o Adwlam yn mynd i Timna i gneifio'i ddefaid.
13 A dwedodd rhywun wrth Tamar fod ei thad-yng-nghyfraith wedi mynd yno.
14 Roedd Tamar yn gwybod fod Shela wedi tyfu, ac eto doedd hi ddim wedi cael ei rhoi yn wraig iddo. Felly dyma Tamar yn newid o'r dillad oedd yn dangos ei bod hi'n weddw, gwisgo i fyny, a rhoi fêl dros ei hwyneb. Yna aeth i eistedd ar ochr y ffordd y tu allan i bentref Enaim, sydd ar y ffordd i Timna.
15 Pan welodd Jwda hi, roedd yn meddwl mai putain oedd hi, gan ei bod wedi cuddio'i hwyneb.
16 Aeth draw ati ar ochr y ffordd, a dweud, “Tyrd, dw i eisiau cysgu hefo ti.” (Doedd e ddim yn gwybod mai ei ferch-yng-nghyfraith oedd hi.) A dyma hithau yn ateb, “Faint wnei di dalu i mi am gael rhyw gyda mi?”
17 “Wna i anfon myn gafr i ti o'r praidd,” meddai Jwda. A dyma hi'n ateb, “Dim ond os ca i rywbeth i'w gadw'n ernes nes i ti anfon yr afr i mi.”
18 “Beth wyt ti eisiau?” meddai. “Y sêl yna sydd ar y cordyn am dy wddf, a dy ffon di.” Felly dyma fe'n eu rhoi nhw iddi. Cafodd ryw gyda hi, a dyma hi'n beichiogi.
19 Aeth Tamar i ffwrdd ar unwaith, tynnu'r fêl, a gwisgo'i dillad gweddw eto.
20 Dyma Jwda'n anfon ei ffrind o Adwlam gyda'r myn gafr iddi, ac i gael y pethau roddodd e iddi yn ôl. Ond roedd y ffrind yn methu dod o hyd iddi.
21 Dyma fe'n holi dynion yr ardal amdani. “Ble mae'r butain oedd ar ochr y ffordd yn Enaim?” “Does dim putain yma,” medden nhw.
22 Felly aeth yn ôl at Jwda a dweud wrtho, “Dw i wedi methu dod o hyd iddi. Mae dynion yr ardal yn dweud fod dim putain yno.”
23 “Caiff hi gadw'r pethau rois i iddi,” meddai Jwda. “Anfonais i'r myn gafr iddi, ond roeddet ti'n methu dod o hyd iddi. Fyddwn ni'n ddim byd ond testun sbort os awn ni yn ôl yno eto.”
24 Tua tri mis yn ddiweddarach, dwedodd rhywun wrth Jwda, “Mae Tamar, dy ferch-yng-nghyfraith, wedi bod yn cysgu o gwmpas. Mae hi'n disgwyl babi.” “Dewch â hi allan yma, a'i llosgi hi!” meddai Jwda.
25 Ond wrth iddyn nhw ddod â hi allan, dyma hi'n anfon neges at ei thad-yng-nghyfraith, “Y dyn sydd biau'r pethau yma sydd wedi fy ngwneud i'n feichiog. Edrych pwy sydd biau nhw – y sêl yma sydd ar gordyn, a'r ffon.”
26 Dyma Jwda'n gweld mai fe oedd piau nhw. “Hi sy'n iawn a fi sydd ar fai,” meddai. “Wnes i ddim ei rhoi hi'n wraig i'm mab Shela.” Wnaeth Jwda ddim cysgu gyda hi ar ôl hynny.
27 Pan ddaeth ei hamser hi, roedd ganddi efeilliaid.
28 Wrth iddi eni'r plant, dyma un plentyn yn gwthio ei law allan, a dyma'r fydwraig yn rhwymo edau goch am ei arddwrn, a dweud, “Hwn ddaeth allan gynta.”
29 Ond wedyn tynnodd ei law yn ôl, a daeth ei frawd allan o'i flaen. “Sut wnest ti lwyddo i wthio trwodd?” meddai'r fydwraig. Felly dyma'r plentyn hwnnw yn cael ei alw yn Perets. Ref
’
30 Wedyn dyma'i frawd yn cael ei eni, gyda'r edau goch am ei arddwrn. A dyma fe'n cael ei alw yn Serach. Ref
’
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity