GENESIS 4
Cain yn lladd Abel
1 Cysgodd Adda gyda'i wraig Efa, a dyma hi'n beichiogi. Cafodd blentyn, sef Cain, ac meddai, “Dw i wedi cael plentyn, gyda help yr ARGLWYDD.”
2 Wedyn cafodd blentyn arall, brawd i Cain, sef Abel.
Tyfodd Abel i fod yn fugail, ond roedd Cain yn trin y tir.
3 Adeg y cynhaeaf daeth Cain â pheth o gynnyrch y tir i'w roi yn offrwm i'r ARGLWYDD.
4 Daeth Abel â rhai o ŵyn cyntaf y praidd, a rhoi'r rhai gorau yn offrwm i Dduw. Roedd Abel a'i offrwm yn plesio'r ARGLWYDD,
5 ond wnaeth e ddim cymryd sylw o Cain a'i offrwm e. Roedd Cain wedi gwylltio'n lân. Roedd i'w weld ar ei wyneb!
6 Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i Cain, “Ydy'n iawn i ti wylltio fel yma? Pam wyt ti mor ddig?
7 Os gwnei di beth sy'n iawn bydd pethau'n gwella. Ond os na wnei di beth sy'n iawn, mae pechod fel anifail yn llechu wrth y drws. Mae am dy gael di, ond rhaid i ti ei reoli.”
8 Dwedodd Cain wrth ei frawd, “Gad i ni fynd allan i gefn gwlad.” Ref Yna pan oedden nhw allan yng nghefn gwlad dyma Cain yn ymosod ar ei frawd Abel a'i ladd.
’
9 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Cain, “Ble mae Abel, dy frawd di?” Atebodd Cain, “Dw i ddim yn gwybod. Ai fi sydd i fod i ofalu am fy mrawd?”
10 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Beth yn y byd wyt ti wedi'i wneud? Gwranda! Mae gwaed dy frawd yn gweiddi arna i o'r pridd.
11 Melltith arnat ti. Rhaid i ti adael y tir yma lyncodd waed dy frawd pan wnest ti ei ladd.
12 Byddi'n ceisio trin y tir ond yn methu cael cnwd da ohono. Byddi'n crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad.”
13 Ac meddai Cain wrth yr ARGLWYDD, “Mae'r gosb yn ormod i mi ei chymryd!
14 Ti wedi fy ngyrru i ffwrdd o'r tir, a bydda i wedi fy nhorri i ffwrdd oddi wrthot ti. Bydda i'n crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad, a bydd pwy bynnag sy'n dod o hyd i mi yn fy lladd.”
15 Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Na. Bydd pwy bynnag sy'n lladd Cain yn cael ei gosbi saith gwaith drosodd.” A dyma'r ARGLWYDD yn marcio Cain i ddangos iddo na fyddai'n cael ei ladd gan bwy bynnag fyddai'n dod o hyd iddo.
16 Felly aeth Cain i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD a mynd i fyw i wlad Nod Ref i'r dwyrain o Eden.
Disgynyddion Cain
17 Cysgodd Cain gyda'i wraig, a dyma hi'n beichiogi. Cafodd blentyn, sef Enoch. Roedd Cain yn adeiladu pentref gyda wal i'w amddiffyn, a galwodd y pentref yn ‛Enoch‛ ar ôl ei fab.
18 Roedd Enoch yn dad i Irad, Irad yn dad i Mechwiael, Mechwiael yn dad i Methwshael, a Methwshael yn dad i Lamech.
19 Dyma Lamech yn cymryd dwy wraig iddo'i hun – Ada oedd enw un a Sila oedd y llall.
20 Cafodd Ada blentyn, sef Iabal. Iabal oedd y cyntaf i fyw mewn pebyll a chadw anifeiliaid.
21 Roedd ganddo frawd o'r enw Iwbal. Iwbal oedd y cyntaf i ganu'r delyn a'r ffliwt.
22 Dyma Sila, y wraig arall, yn cael plentyn hefyd, sef Twbal-cain. Fe oedd y cyntaf i weithio gyda metelau, a gwneud offer pres a haearn. Roedd gan Twbal-cain chwaer o'r enw Naamâ.
23 Dyma Lamech yn dweud wrth ei wragedd:
“Ada a Sila, gwrandwch arna i!
Wragedd Lamech, sylwch beth dw i'n ddweud:
Byddwn i'n lladd dyn am fy anafu i,
neu blentyn am fy nharo i.
24 Os bydd y dial am Cain saith gwaith gwaeth,
bydd y dial am Lamech saith deg saith gwaith!”
25 Cysgodd Adda gyda'i wraig eto, a chafodd hi fab arall. Galwodd hwn yn Seth, “am fod Duw wedi rhoi Ref plentyn i mi yn lle Abel, ar ôl i Cain ei ladd.”
26 Cafodd Seth fab, a'i alw yn Enosh. Dyna pryd y dechreuodd pobl addoli'r ARGLWYDD.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity