GENESIS 40
Breuddwydion y ddau garcharor
1 Beth amser wedyn, dyma brif-fwtler Ref a phen-pobydd y palas brenhinol yn pechu yn erbyn eu meistr, brenin yr Aifft.
2 Roedd y Pharo yn wyllt gynddeiriog gyda'i ddau swyddog,
3 a thaflodd nhw i'r carchar ble roedd Joseff, sef carchar capten y gwarchodlu.
4 Rhoddodd y capten y gwaith o edrych ar eu holau i Joseff. Roedd yn gweini arnyn nhw, a buon nhw yn y carchar am amser hir.
5 Un noson, dyma'r ddau ohonyn nhw yn cael breuddwyd – prif-fwtler a phen-pobydd brenin yr Aifft, oedd yn y carchar. Cafodd y ddau freuddwyd, ac roedd ystyr arbennig i'r ddwy freuddwyd.
6 Pan ddaeth Joseff i mewn atyn nhw y bore wedyn, sylwodd fod y ddau yn poeni am rywbeth.
7 Felly gofynnodd iddyn nhw, “Pam dych chi'n edrych mor ddigalon?”
8 A dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae'r ddau ohonon ni wedi cael breuddwydion neithiwr ond does neb yn gallu esbonio'r ystyr i ni.” Atebodd Joseff, “Dim ond Duw sy'n medru esbonio'r ystyr. Dwedwch wrtho i beth oedd y breuddwydion.”
9 Felly dyma'r prif-fwtler yn dweud wrth Joseff am ei freuddwyd. “Yn fy mreuddwyd i roeddwn i'n gweld gwinwydden.
10 Roedd tair cangen ar y winwydden. Dechreuodd flaguro a blodeuo, ac wedyn roedd sypiau o rawnwin yn aeddfedu arni.
11 Roedd cwpan y Pharo yn fy llaw. A dyma fi'n cymryd y grawnwin a gwasgu eu sudd i mewn i gwpan y Pharo, a'i roi iddo i'w yfed.”
12 Dwedodd Joseff wrtho, “Dyma'r ystyr. Mae'r tair cangen yn cynrychioli tri diwrnod.
13 O fewn tri diwrnod bydd y Pharo yn rhoi dy swydd yn ôl i ti. Byddi di'n rhoi ei gwpan i'r Pharo eto, fel roeddet ti'n arfer gwneud pan oeddet ti'n brif-fwtler.
14 Ond cofia amdana i pan fydd pethau'n mynd yn dda arnat ti. Gwna ffafr â mi, a sonia wrth y Pharo amdana i, i minnau gael dod allan o'r carchar yma.
15 Ces i fy nghipio o wlad yr Hebreaid, a dw i wedi gwneud dim byd i haeddu cael fy rhoi yn y twll yma.”
16 Pan welodd y pen-pobydd fod yr esboniad yn dda, dyma fe'n dweud wrth Joseff, “Ces i freuddwyd hefyd. Rôn i'n cario tair basged o fara gwyn ar fy mhen.
17 Yn y fasged uchaf roedd pob math o fara a chacennau wedi'u pobi i'r Pharo ond roedd yr adar yn eu bwyta nhw o'r fasged oedd ar fy mhen i.”
18 A dyma Joseff yn dweud, “Dyma ydy'r ystyr. Mae'r tair basged yn cynrychioli tri diwrnod.
19 Mewn tri diwrnod bydd y Pharo yn torri dy ben di i ffwrdd, ac yn rhoi dy gorff ar bolyn, a bydd yr adar yn bwyta dy gnawd di.”
20 Ddeuddydd wedyn roedd pen-blwydd y Pharo, a dyma fe'n trefnu gwledd fawr i'w swyddogion i gyd. Daeth â'r prif-fwtler a'r pen-pobydd allan o'r carchar.
21 Rhoddodd ei swydd yn ôl i'r prif-fwtler, a dechreuodd weini ar y Pharo eto.
22 Wedyn gorchmynnodd grogi corff y pen-pobydd ar bolyn, yn union fel roedd Joseff wedi dweud.
23 Ond anghofiodd y prif-fwtler yn llwyr am Joseff.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity