|
|
(1 Cronicl 1:1-4)
1 Dyma restr deuluol Adda: Pan greodd Duw bobl, gwnaeth nhw i fod yn ddelw ohono'i hun. 2 Creodd nhw yn wryw ac yn fenyw, bendithiodd nhw, a rhoi'r enw ‛dynoliaeth‛ iddyn nhw. 4 Buodd Adda fyw am 800 mlynedd ar ôl i Seth gael ei eni, a chafodd blant eraill. 5 Felly roedd Adda yn 930 oed yn marw. 7 Buodd Seth fyw am 807 o flynyddoedd ar ôl i Enosh gael ei eni, a chafodd blant eraill. 8 Felly roedd Seth yn 912 oed yn marw. 10 Buodd Enosh fyw am 815 mlynedd ar ôl i Cenan gael ei eni, a chafodd blant eraill. 11 Felly roedd Enosh yn 905 oed yn marw. 13 Buodd Cenan fyw am 840 mlynedd ar ôl i Mahalal-el gael ei eni, a chafodd blant eraill. 14 Felly roedd Cenan yn 910 oed yn marw. 16 Buodd Mahalal-el fyw am 830 mlynedd ar ôl i Iered gael ei eni, a chafodd blant eraill. 17 Felly roedd Mahalal-el yn 895 oed yn marw. 19 Buodd Iered fyw am 800 mlynedd ar ôl i Enoch gael ei eni, a chafodd blant eraill. 20 Felly roedd Iered yn 962 oed yn marw. 22 Roedd gan Enoch berthynas agos gyda Duw, a buodd fyw am 300 mlynedd ar ôl i Methwsela gael ei eni, a chafodd blant eraill. 23 Felly dyma Enoch yn byw i fod yn 365 oed. 24 Roedd ganddo berthynas agos gyda Duw, ond yn sydyn doedd e ddim yna. Roedd Duw wedi'i gymryd i ffwrdd. 26 Buodd Methwsela fyw am 782 o flynyddoedd ar ôl i Lamech gael ei eni, a chafodd blant eraill. 27 Felly roedd Methwsela yn 969 oed yn marw. 29 a'i alw yn Noa. Ref Dwedodd, “Bydd hwn yn rhoi gorffwys i ni o'r gwaith caled o drin y tir mae'r ARGLWYDD wedi'i felltithio.” 30 Buodd Lamech fyw am 595 mlynedd ar ôl i Noa gael ei eni, a chafodd blant eraill. 31 Felly roedd Lamech yn 777 oed yn marw.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity