|
|
byrstiodd y ffynhonnau dŵr tanddaearol,
ac agorodd llifddorau'r awyr.
12 Buodd hi'n bwrw glaw yn drwm, ddydd a nos, am bedwar deg diwrnod. 13 Ar y diwrnod y dechreuodd hi lawio, aeth Noa i'r arch gyda'i wraig, ei feibion, Shem, Cham a Jaffeth, a'u gwragedd nhw. 14 Gyda nhw roedd y gwahanol fathau o anifeiliaid gwyllt a dof, yr ymlusgiaid, ac adar a phryfed – popeth oedd yn gallu hedfan. 15 Aeth y creaduriaid byw i gyd at Noa i'r arch bob yn ddau – 16 gwryw a benyw, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrth Noa. A dyma'r ARGLWYDD yn eu cau nhw i mewn. 17 Dyma'r dilyw yn para am bedwar deg diwrnod. Roedd y llifogydd yn mynd yn waeth, nes i'r arch gael ei chodi ar wyneb y dŵr. 18 Roedd y dŵr yn codi'n uwch ac yn uwch, a'r arch yn nofio ar yr wyneb. 19 Roedd cymaint o ddŵr nes bod hyd yn oed y mynyddoedd o'r golwg. 20 Daliodd i godi nes bod y dŵr dros saith metr yn uwch na'r mynyddoedd uchaf. 21 Cafodd popeth byw ei foddi – adar, anifeiliaid dof a gwyllt, yr holl greaduriaid sy'n heidio ar y ddaear, a phob person byw. 22 Roedd pob creadur oedd yn anadlu ac yn byw ar dir sych wedi marw. 23 Dyma Duw yn cael gwared â nhw i gyd – pobl, anifeiliaid, ymlusgiaid a phryfed, ac adar. Cafodd wared â'r cwbl. Dim ond Noa a'r rhai oedd yn yr arch oedd ar ôl. 24 Wnaeth y dŵr ddim dechrau gostwng am bum mis.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity