|
|
6 Mae rhywun sy'n lladd person arall
yn haeddu cael ei ladd ei hun,
am fod Duw wedi creu'r ddynoliaeth
yn ddelw ohono'i hun.
7 Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi drwy'r byd i gyd.” 8 A dyma Duw yn dweud wrth Noa a'i feibion, 9 “Dw i am wneud ymrwymiad i chi a'ch disgynyddion, 10 a hefyd gyda phob creadur byw – adar, anifeiliaid dof a phob creadur arall ddaeth allan o'r arch. 11 Dw i'n addo na fydda i byth yn anfon dilyw eto i gael gwared â phopeth byw ac i ddinistrio'r ddaear. 12 A dw i'n mynd i roi arwydd i chi i ddangos fod yr ymrwymiad dw i'n ei wneud yn mynd i bara am byth: 13 Dw i'n rhoi fy enfys yn y cymylau, a bydd yn arwydd o'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud gyda'r ddaear. 14 Pan fydd cymylau yn yr awyr, ac enfys i'w gweld yn y cymylau, 15 bydda i'n cofio'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud i chi a phob creadur byw. Fydd llifogydd ddim yn dod i ddinistrio popeth byw byth eto. 16 Pan fydd enfys yn y cymylau bydda i'n cofio'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud gyda phob creadur byw sydd ar y ddaear.” 17 A dyma Duw yn dweud wrth Noa, “Dyma'r arwydd sy'n dangos y bydda i'n cadw'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud gyda phopeth byw ar y ddaear.”“Melltith ar Canaan!
Bydd fel caethwas dibwys i'w frodyr.”
26 Wedyn dwedodd Noa,“Bendith yr
ARGLWYDD Dduw ar Shem!Bydd Canaan yn gaethwas iddo.
27 Boed i Dduw roi digonedd o le Ref i Jaffeth,
a gwneud iddo gyd-fyw'n heddychlon gyda Shem.
A bydd Canaan yn gaethwas iddo yntau hefyd.”
28 Buodd Noa fyw 350 mlynedd ar ôl y dilyw. 29 Felly roedd Noa yn 950 oed yn marw.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity