|
|
6 Dych chi wedi hau digon, ond bach iawn ydy'r cynhaeaf;
dych chi'n bwyta, ond byth yn cael eich llenwi;
dych chi'n yfed, ond heb gael eich bodloni;
dych chi'n gwisgo dillad, ond yn methu cadw'n gynnes;
mae fel petai'r cyflog mae pobl yn ei ennill
yn mynd i bwrs sydd â thwll ynddo!
7 Ie, meddyliwch am funud beth dych chi'n wneud!’—meddai'r
ARGLWYDD hollbwerus.8 ‘Ewch i'r bryniau a dod â coed yn ôl i adeiladu'r deml;
bydd hynny'n fy mhlesio, a bydd pobl yn fy mharchu,’
—meddai'r
ARGLWYDD.9 ‘Roeddech chi'n disgwyl cnydau da,
ond yn cael cnydau gwael.
Roeddech chi'n ei gasglu,
ond yna byddwn i'n ei chwythu i ffwrdd!’
—meddai'r
ARGLWYDD hollbwerus. ‘Pam? – Am fod fy nhŷ i yn adfeilion, a chithau'n rhy brysur yn poeni amdanoch chi'ch hunain!10 Dyna pam mae'r awyr heb roi gwlith,
a'r tir wedi peidio tyfu cnydau.
11 Fi sydd wedi anfon sychder drwy'r wlad –
ar y bryniau,
ar yr ŷd a'r grawnwin a'r olewydd
a phopeth arall sy'n tyfu o'r ddaear,
ar bobl ac anifeiliaid,
ac ar ffrwyth eich holl waith caled.’”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity