HAGGAI 2
Ysblander y deml
1 Yna ar yr unfed ar hugain o'r seithfed mis Ref yn yr ail flwyddyn i'r Brenin Dareius deyrnasu, dyma'r proffwyd Haggai yn cael y neges yma gan yr ARGLWYDD:
2 “Dos i siarad â Serwbabel fab Shealtiel, llywodraethwr Jwda, a'r archoffeiriad Jehoshwa fab Iehotsadac. Dwed wrthyn nhw, a phawb arall hefyd:
3 ‘Pwy ohonoch chi yma welodd y deml fel roedd hi ers talwm,Croes yn ei holl ysblander? A sut mae'n edrych i chi nawr? Dim byd o'i chymharu mae'n siŵr!
4 Ond dal ati, Serwbabel. Dal ati, Jehoshwa fab Iehotsadac. A daliwch chithau ati, bawb,’—meddai'r ARGLWYDD. ‘Daliwch ati i weithio, oherwydd dw i gyda chi’—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.
5 ‘Fel gwnes i addo i chi pan ddaethoch chi allan o wlad yr Aifft, mae fy Ysbryd yn dal gyda chi. Peidiwch bod ag ofn!’”
6 “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Unwaith eto, cyn bo hir, dw i'n mynd i ysgwyd y nefoedd a'r ddaear, y môr a'r tir.
7 Bydda i'n ysgwyd y gwledydd i gyd. Byddan nhw'n dod ac yn cyflwyno'u trysorau, a bydda i'n llenwi'r deml yma â chyfoeth ac ysblander,’—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.
8 ‘Fi piau'r arian, a fi piau'r aur,’—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.
9 ‘Bydd y deml yma yn llawer harddach yn y dyfodol nag oedd hi o'r blaen,’—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus; ‘a bydda i'n dod â llwyddiant a heddwch i'r lle yma.’ Ydy, mae'r ARGLWYDD hollbwerus wedi dweud.”
Holi'r offeiriaid am aflendid
10 Ar y pedwerydd ar hugain o'r nawfed mis Ref yn yr ail flwyddyn i'r Brenin Dareius deyrnasu, cafodd y proffwyd Haggai y neges yma gan yr ARGLWYDD:
11 Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Gofynnwch i'r offeiriaid am arweiniad o'r Gyfraith:
12 ‘Os ydy rhywun yn cario cig anifail wedi'i aberthu wedi'i lapio yn ei fantell, a'r dilledyn hwnnw wedyn yn cyffwrdd â bara neu stiw, gwin, olew, neu ryw fwyd arall, fydd e'n gwneud y bwydydd hynny'n gysegredig?’” Ateb yr offeiriaid oedd, “Na fydd.”
13 A dyma Haggai yn gofyn wedyn, “Os ydy rhywun sy'n aflan am ei fod wedi cyffwrdd corff marwCroes yn dod i gysylltiad â'r bwydydd hynny, fydd hynny'n gwneud y bwydydd yn aflan?” A dyma'r offeiriaid yn ateb, “Bydd.”
14 Yna dyma Haggai yn dweud: “‘Mae'r un peth yn wir am y bobl yma a'r genedl yma,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘a'u cynnyrch nhw i gyd. Mae popeth maen nhw'n ei offrymu yn aflan!
15 “‘Meddyliwch sut roedd pethau cyn i'r gwaith o ailadeiladu teml yr ARGLWYDD ddechrau.
16 Pan oedd rhywun yn disgwyl dau ddeg mesur o ŷd, doedd ond deg yno; ac os oedd rhywun eisiau codi hanner can mesur o win o'r cafn, doedd ond dau ddeg yno.
17 Rôn i'n eich cosbi chi drwy anfon gormod o wres, gormod o law neu genllysg ar eich cnydau, ond wnaethoch chi ddim troi ata i,’ meddai'r ARGLWYDD.
18 “‘Meddyliwch sut mae pethau wedi bod ers y diwrnod pan gafodd y sylfeini eu gosod i ailadeiladu teml yr ARGLWYDD, ie, hyd heddiw (y pedwerydd ar hugain o'r nawfed mis):
19 Falle nad oes grawn yn yr ysgubor, ac nad ydy'r gwinwydd, y coed ffigys, y pomgranadau a'r coed olewydd wedi rhoi eu ffrwyth eto, ond o heddiw ymlaen dw i'n mynd i'ch bendithio chi.’”
Yr ARGLWYDD yn annog Serwbabel
20 A dyma Haggai yn cael ail neges gan yr ARGLWYDD ar y pedwerydd ar hugain o'r mis:
21 “Dwed hyn wrth Serwbabel, llywodraethwr Jwda: ‘Dw i'n mynd i ysgwyd y nefoedd a'r ddaear.
22 Dw i'n mynd i chwalu gorseddau brenhinol a dinistrio grym llywodraethau'r gwledydd. Bydda i'n troi'r cerbydau rhyfel drosodd, gyda'i gyrrwyr. Bydd ceffylau rhyfel yn syrthio, a'u marchogion yn lladd ei gilydd.
23 “‘Y diwrnod hwnnw,’—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus—‘bydda i'n dy gymryd di, Serwbabel fy ngwas, ac yn dy wneud di fel sêl-fodrwy. Ref Dw i wedi dy ddewis di.’ Dyna mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud.”
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity