|
|
“Ti ydy fy Mab i;
heddiw des i'n dad i ti”?Croes
Neu hyn:“Bydda i'n dad iddo fe,
A bydd e'n fab i mi”?Croes
6 Ac wrth i Dduw ddod â'i fab hynaf yn ôl i'r byd nefol i'w anrhydeddu, mae'n dweud:“Addolwch e, holl angylion Duw!” Croes
7 Pan mae Duw'n sôn am angylion mae'n eu disgrifio fel:“negeswyr sydd fel gwyntoedd,
a gweision sydd fel fflamau o dân.” Croes
8 Ond am y Mab mae Duw'n dweud hyn:“Byddi di, O Dduw, yn frenin ar yr orsedd am byth,
a byddi'n teyrnasu mewn ffordd gyfiawn.
9 Ti'n caru beth sy'n iawn ac yn casáu drygioni;
felly mae Duw, ie dy Dduw di, wedi dy eneinio di,
a thywallt olew llawenydd arnat ti yn fwy na neb arall.” Croes
“O Arglwydd, ti osododd y ddaear yn ei lle ar y dechrau cyntaf,
a gwaith dy ddwylo di ydy popeth yn yr awyr.
11 Byddan nhw'n darfod, ond rwyt ti'n aros;
byddan nhw'n mynd yn hen fel dillad wedi'u gwisgo.
12 Byddi'n eu rholio i fyny fel hen glogyn;
byddi'n eu newid nhw fel rhywun yn newid dillad.
Ond rwyt ti yn aros am byth –
dwyt ti byth yn mynd yn hen.” Croes
13 Wnaeth Duw ddweud hyn wrth angel erioed?:“Eistedd yma yn y sedd anrhydedd Ref
nes i mi wneud i dy elynion blygu
fel stôl i ti orffwys dy draed arni.” Croes
14 Dim ond gweision ydy'r angylion. Ysbrydion wedi'u hanfon i wasanaethu'r rhai fydd yn cael eu hachub!Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity