|
|
“Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau,
ond rwyt wedi rhoi corff i mi.
6 Doedd offrymau llosg ac offrymau dros bechod
ddim yn dy blesio di.
‘O Dduw, dw i wedi dod i wneud beth rwyt ti eisiau –
fel mae wedi'i ysgrifennu amdana i yn y sgrôl.’” Croes
8 Mae'r Meseia yn dweud, “Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau” a “Doedd offrymau llosg ac offrymau dros bechod ddim yn dy blesio di.” (Y Gyfraith Iddewig sy'n dweud fod rhaid gwneud hyn i gyd.) 9 Wedyn mae'r Meseia'n dweud, “dw i wedi dod i wneud beth rwyt ti eisiau.” Felly mae'n cael gwared â'r drefn gyntaf i wneud lle i'r ail. 10 A beth mae Duw eisiau ydy i ni gael ein glanhau o'n pechod am fod Iesu y Meseia wedi'i aberthu ei hun un waith ac am byth. 11 Dan yr hen drefn mae'r offeiriad yn sefyll o flaen yr allor yn gwneud yr un gwaith ddydd ar ôl dydd. Mae e'n offrymu yr un aberthau drosodd a throsodd, ond allan nhw byth gael gwared â phechod!Croes 12 Ond dyma'r Meseia, ein hoffeiriad ni, yn offrymu ei hun yn aberth dros bechod un waith ac am byth, ac yna'n eistedd i lawr yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw. 13 Ers hynny mae wedi bod yn disgwyl i'w elynion gael eu gorfodi i blygu o'i flaen fel stôl iddo orffwys ei draed arni.Croes 14 Drwy aberthu ei hun un waith mae'r Meseia wedi glanhau'n berffaith y bobl mae Duw wedi'u cysegru iddo'i hun am byth. 15 Ac mae'r Ysbryd Glân wedi sôn am hyn hefyd. Mae'n dweud fel hyn:16 “Dyma'r ymrwymiad fydda i'n ei wneud
gyda fy mhobl bryd hynny,” meddai'r Arglwydd:
“Bydd fy neddfau'n glir yn eu meddyliau
ac wedi'u hysgrifennu ar eu calonnau.” Croes
17 Wedyn mae'n ychwanegu hyn:“Bydda i'n anghofio'u pechodau,
a'r pethau wnaethon nhw o'i le, am byth.” Croes
18 Os ydy'r pechodau hyn wedi'u maddau, does dim angen aberth dros bechod ddim mwy!“Fi sy'n dial; gwna i dalu yn ôl,” Croes
a hefyd,“Bydd yr Arglwydd yn barnu ei bobl.” Croes
31 Peth dychrynllyd ydy cael eich dal gan y Duw byw! 32 Felly cofiwch yr adeg pan gawsoch chi'ch goleuo am y tro cyntaf. Bryd hynny roeddech chi'n sefyll yn gadarn er eich bod wedi gorfod dioddef yn ofnadwy. 33 Weithiau'n cael eich sarhau a'ch cam-drin yn gyhoeddus; dro arall yn sefyll gyda'r rhai oedd yn cael eu trin felly. 34 Roeddech chi'n dioddef gyda'r rhai oedd wedi'u taflu i'r carchar. A phan oedd eich eiddo yn cael ei gymryd oddi arnoch chi roeddech chi'n derbyn y peth yn llawen. Wedi'r cwbl roeddech chi'n gwybod fod gan Dduw bethau gwell i chi – pethau sydd i bara am byth! 35 Felly peidiwch taflu'r hyder sydd gynnoch chi i ffwrdd – mae gwobr fawr yn ei ddilyn! 36 Rhaid i chi ddal ati, a gwneud beth mae Duw eisiau. Wedyn cewch dderbyn beth mae wedi'i addo i chi! 37 Oherwydd,“yn fuan iawn,
bydd yr Un sy'n dod yn cyrraedd
– fydd e ddim yn hwyr.
38 Bydd fy un cyfiawn yn byw drwy ei ffyddlondeb.
Ond bydd y rhai sy'n troi cefn ddim yn fy mhlesio i.” Croes
39 Ond dŷn ni ddim gyda'r bobl hynny sy'n troi cefn ac yn cael eu dinistrio. Dŷn ni gyda'r rhai ffyddlon, y rhai sy'n credu ac yn cael eu hachub.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity