|
|
“Wna i byth eich siomi chi,
na throi fy nghefn arnoch chi.” Croes
6 Felly gallwn ni ddweud yn hyderus,“Yr Arglwydd ydy'r un sy'n fy helpu i;
fydd gen i ddim ofn.
Beth all pobl ei wneud i mi?” Croes
7 Cofiwch eich arweinwyr, sef y rhai wnaeth rannu neges Duw gyda chi. Meddyliwch sut mae eu bywydau nhw wedi gwneud cymaint o ddaioni. Credwch yn yr Arglwydd yr un fath â nhw. 8 Mae Iesu y Meseia yr un fath bob amser – ddoe, heddiw ac am byth! 9 Peidiwch gadael i bob math o syniadau rhyfedd eich camarwain chi. Haelioni rhyfeddol Duw sy'n ein cynnal ni, dim y rheolau am beth sy'n iawn i'w fwyta. Dydy canolbwyntio ar bethau felly'n gwneud lles i neb! 10 Mae gynnon ni aberth does gan yr offeiriaid sy'n gweini dan yr hen drefn ddim hawl i fwyta ohoni. 11 Dan yr hen drefn mae'r archoffeiriad yn mynd â gwaed anifeiliaid i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd fel offrwm dros bechod, ond mae cyrff yr anifeiliaid yn cael eu llosgi y tu allan i'r gwersyll.Croes 12 A'r un fath, roedd rhaid i Iesu ddioddef y tu allan i waliau'r ddinas er mwyn glanhau'r bobl drwy dywallt ei waed ei hun. 13 Felly gadewch i ninnau fynd ato, y tu allan i'r gwersyll, a bod yn barod i ddioddef amarch fel gwnaeth Iesu ei hun. 14 Dim y byd hwn ydy'n dinas ni! Dŷn ni'n edrych ymlaen at y ddinas yn y nefoedd, sef yr un sydd i ddod. 15 Felly, gadewch i ni foli Duw drwy'r adeg, o achos beth wnaeth Iesu. Y ffrwythau dŷn ni'n eu cyflwyno iddo ydy'r mawl mae e'n ei haeddu. 16 A pheidiwch anghofio gwneud daioni a rhannu'ch cyfoeth gyda phawb sydd mewn angen. Mae'r math yna o aberth yn plesio Duw go iawn. 17 Byddwch yn ufudd i'ch arweinwyr ysbrydol, a gwneud beth maen nhw'n ei ddweud. Mae'n rhaid iddyn nhw roi cyfri i Dduw am y ffordd maen nhw'n gofalu amdanoch chi. Rhowch le iddyn nhw fwynhau eu gwaith, yn lle ei fod yn faich. Fyddai hynny'n sicr o ddim lles i chi. 18 Peidiwch stopio gweddïo droson ni. Mae'n cydwybod ni'n glir, a dŷn ni'n ceisio gwneud beth sy'n iawn bob amser. 19 Dw i'n arbennig eisiau i chi weddïo y ca i ddod yn ôl i'ch gweld chi'n fuan. 20-21 Dw i'n gweddïo y bydd Duw, sy'n rhoi heddwch perffaith i ni, yn eich galluogi chi i wneud beth mae e eisiau. Fe ydy'r Duw gododd ein Harglwydd Iesu yn ôl yn fyw, sef Bugail mawr y defaid. Drwy farw'n aberth, seliodd yr ymrwymiad tragwyddol a wnaeth Duw. Dw i'n gweddïo y bydd Duw, drwy'r Meseia Iesu, yn eich galluogi chi i wneud beth sy'n ei blesio fe. Mae'n haeddu ei foli am byth! Amen! 22 Ffrindiau annwyl, dw i'n pwyso arnoch chi i dderbyn beth dw i wedi'i ddweud. Dw i wedi bod mor gryno ag y galla i. 23 Dw i am i chi wybod fod ein brawd Timotheus wedi cael ei ryddhau o garchar. Os daw yma'n fuan bydda i'n dod ag e gyda mi i'ch gweld chi. 24 Cofion at eich arweinwyr chi i gyd! – ac at bob un o'r credinwyr sydd acw. Mae Cristnogion yr Eidal yn anfon eu cyfarchion atoch chi. 25 Dw i'n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol Duw.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity