|
|
“Os clywch chi lais Duw heddiw,
8 peidiwch bod yn ystyfnigfel oeddech chi adeg y gwrthryfel,
yn rhoi Duw ar brawf yn yr anialwch.
9 Roedd eich hynafiaid wedi profi fy amynedd
a chawson nhw weld y canlyniadau am bedwar deg mlynedd.
a dweud, ‘Maen nhw'n bobl hollol anwadal;
dŷn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’
11 Felly digiais, a dweud ar lw,
‘Chân nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi.’” Croes
12 Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn anufudd ac yn troi cefn ar y Duw byw. 13 Helpwch eich gilydd bob dydd, a gwnewch hynny tra mae hi'n ‛heddiw‛. Peidiwch gadael i bechod eich twyllo a'ch gwneud yn ystyfnig. 14 Os daliwn ein gafael i'r diwedd a dal i gredu fel ar y dechrau, cawn rannu'r cwbl sydd gan y Meseia. 15 Fel dw i newydd ddweud:“Os clywch chi lais Duw heddiw,
peidiwch bod yn ystyfnig
fel oeddech chi adeg y gwrthryfel.” Croes
16 A phwy oedd y rhai wnaeth wrthryfela er eu bod wedi clywed llais Duw? Onid y bobl wnaeth Moses eu harwain allan o'r Aifft? 17 A gyda pwy roedd Duw'n ddig am 40 mlynedd? Onid gyda'r rhai oedd wedi pechu? – nhw syrthiodd yn farw yn yr anialwch!Croes 18 Ac am bwy ddwedodd Duw ar lw na chaen nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gydag e? – onid y bobl hynny oedd yn gwrthod ei ddilyn? 19 Felly dŷn ni'n gweld eu bod nhw wedi methu cyrraedd yno am eu bod nhw ddim yn credu.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity