|
|
“Felly digiais, a dweud ar lw,
‘Chân nhw fyth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi.’” Croes
Ac eto mae ar gael ers i Dduw orffen ei waith yn creu y byd. 4 Mae wedi dweud yn rhywle am y seithfed dydd:“Ar y seithfed dydd dyma Duw yn gorffwys o'i holl waith.” Croes
5 Yn y dyfyniad cyntaf mae Duw'n dweud,“Chân nhw fyth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi.” Croes
6 Felly mae'r lle saff i orffwys yn dal i fodoli, i rai pobl gael mynd yno. Ond wnaeth y rhai y cafodd y newyddion da ei gyhoeddi iddyn nhw yn yr anialwch ddim cyrraedd am eu bod wedi bod yn anufudd. 7 Felly dyma Duw yn rhoi cyfle arall, a ‛heddiw‛ ydy'r cyfle hwnnw. Dwedodd hyn ganrifoedd wedyn, drwy Dafydd yn y geiriau y soniwyd amdanyn nhw'n gynharach:“Os clywch chi lais Duw heddiw,
peidiwch bod yn ystyfnig.” Croes
8 Petai Josua wedi rhoi'r lle saff oedd Duw'n ei addo iddyn nhw orffwys, fyddai dim sôn wedi bod am ddiwrnod arall. 9 Felly, mae yna ‛orffwys y seithfed dydd‛ sy'n dal i ddisgwyl pobl Dduw. 10 Mae pawb sy'n cyrraedd y lle sydd gan Dduw iddyn nhw orffwys yn cael gorffwys o'u gwaith, yn union fel gwnaeth Duw ei hun orffwys ar ôl gorffen ei waith e.Croes 11 Felly gadewch i ni wneud ein gorau glas i fynd i'r lle saff hwn lle cawn ni orffwys. Bydd unrhyw un sy'n gwrthod dilyn Duw yn syrthio, fel y gwnaeth y bobl yn yr anialwch. 12 Mae neges Duw yn fyw ac yn cyflawni beth mae'n ei ddweud. Mae'n fwy miniog na'r un cleddyf, ac yn treiddio'n ddwfn o'n mewn, i wahanu'r enaid a'r ysbryd, y cymalau a'r mêr. Mae'n barnu beth dŷn ni'n ei feddwl ac yn ei fwriadu. 13 Does dim byd drwy'r greadigaeth gyfan yn gallu cuddio oddi wrth Dduw. Mae e'n gweld popeth yn glir. A dyma'r Duw dŷn ni i gyd yn atebol iddo.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity