|
|
“‘Mae'r amser yn dod,’ meddai'r Arglwydd,
‘pan fydda i'n gwneud ymrwymiad newydd
gyda phobl Israel a Jwda.’
9 ‘Fydd hwn ddim yr un fath â'r un
wnes i gyda'u hynafiaid
(pan afaelais yn eu llaw
a'u harwain allan o'r Aifft).
Wnaethon nhw ddim cadw
eu hochr nhw o'r cytundeb,
felly dyma fi'n troi fy nghefn arnyn nhw,’
meddai'r Arglwydd.
10 ‘Dyma'r ymrwymiad fydda i'n ei wneud
gyda phobl Israel bryd hynny,’ meddai'r Arglwydd:
‘Bydd fy neddfau'n glir yn eu meddyliau
ac wedi'u hysgrifennu ar eu calonnau.
Fi fydd eu Duw nhw,
a nhw fydd fy mhobl i.
11 Fyddan nhw ddim yn gorfod dysgu pobl eraill,
a dweud wrth ei gilydd,
“Rhaid i ti ddod i nabod yr Arglwydd,”
achos bydd pawb yn fy nabod i,
o'r lleia i'r mwya.
12 Bydda i'n maddau iddyn nhw am y pethau wnaethon nhw o'i le,
ac yn anghofio'u pechodau am byth.’” Croes
13 Drwy ddefnyddio'r gair ‛newydd‛ i ddisgrifio'r ymrwymiad yma, mae Duw'n dweud fod y llall yn hen. Os ydy rhywbeth yn hen ac yn perthyn i'r oes o'r blaen, yn fuan iawn mae'n mynd i ddiflannu'n llwyr!Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity