|
|
1 Roedd Israel fel gwinwydden iach
a'i ffrwyth yn drwm ar ei changhennau.
Ond po fwya o ffrwyth gafwyd,
mwya o allorau a godwyd.
Wrth i gnydau'r tir lwyddo
byddai'r colofnau cysegredig yn cael eu haddurno.
felly byddan nhw'n cael eu cosbi.
Bydd yr
ARGLWYDD ei hunyn chwalu'r allorau
ac yn malu'r colofnau.
3 Yn fuan iawn byddan nhw'n cyfaddef,
“Does dim brenin am ein bod heb barchu'r
ARGLWYDD.Ond beth wnaeth brenin i ni beth bynnag?”
4 Maen nhw'n llawn geiriau gwag,
addewidion wedi'u torri,
a chytundebau diwerth.
Mae achosion llys yn lledu
fel chwyn gwenwynig mewn cae wedi'i aredig.
beth ddigwydd i lo Beth-afen. Ref
Bydd y bobl yn galaru
gyda'r offeiriaid ffals a fu'n dathlu,
am fod ei ysblander wedi'i gipio,
yn anrheg i'r brenin mawr.
Bydd Effraim Ref yn destun sbort,
ac Israel yn cywilyddio o achos yr eilun o bren.
7 Bydd Samaria'n cael ei dinistrio,
a'i brenin yn cael ei gipio
fel brigyn yn cael ei gario ar lif afon.
8 Bydd yr allorau paganaidd yn cael eu dinistrio –
sef y lleoedd lle bu Israel yn pechu.
Bydd drain ac ysgall yn tyfu dros yr allorau.
Byddan nhw'n dweud wrth y mynyddoedd, “Cuddiwch ni!”
ac wrth y bryniau, “Syrthiwch arnon ni!”Croes
11 Roedd Effraim fel heffer wedi'i hyfforddi,
ac wrth ei bodd yn sathru'r grawn.
Ond dw i'n mynd i roi iau trwm ar ei gwddf,
a gêr i wneud i Effraim aredig.
Bydd rhaid i Jwda aredig
a Jacob lyfnu'r tir ei hun!
a chewch gynhaeaf o gariad gen i.
Trin tir eich calon galedCroes –
ceisio'r
ARGLWYDD nes iddo ddodgyda chawodydd achubiaeth.
13 Ond rwyt wedi plannu drygioni,
a medi anghyfiawnder,
ac yna bwyta ffrwyth y twyll.
Ti wedi dibynnu ar gerbydau rhyfel,
a phwyso ar faint dy fyddin.
14 Felly daw sŵn brwydro ar dy bobl,
a bydd dy gaerau i gyd yn syrthio.
Bydd fel y frwydr honno pan ddinistriodd y Brenin Shalman Ref Beth-arbel, a'r mamau'n cael eu curo i farwolaeth gyda'u plant. 15 Dyna fydd yn digwydd i ti, Bethel, am wneud cymaint o ddrwg! Pan fydd y diwrnod hwnnw'n gwawrio, bydd brenin Israel wedi mynd am byth.” RefHawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity