|
|
1 Pan oedd Israel yn blentyn rôn i'n ei garu,
a galwais fy mab allan o'r Aifft.Croes
2 Ond po fwya roeddwn i'n galw,
pellaf roedden nhw'n mynd.
Roedden nhw'n aberthu i ddelwau o Baal,
a llosgi arogldarth i eilunod.
3 Fi ddysgodd Effraim Ref i gerdded;
a'i arwain gerfydd ei law.
Ond wnaeth ei bobl ddim cydnabod
mai fi ofalodd amdanynt.
4 Fi wnaeth eu harwain gyda thennyn lledr –
tennyn cariad.
Fi gododd yr iau oddi ar eu gwddf,
a fi wnaeth blygu i'w bwydo.
5 Byddan nhw'n mynd yn ôl i'r Aifft!
Bydd Asyria'n eu rheoli,
am iddyn nhw wrthod troi'n ôl ata i.
6 Bydd cleddyf yn fflachio'n eu trefi.
Bydd y gelyn yn malu'r giatiau,
a'u lladd er gwaetha'u cynlluniau.
7 Mae fy mhobl yn mynnu troi cefn arna i.
Maen nhw'n galw ar Baal,
ond fydd e byth yn eu helpu nhw!
8 Sut alla i dy roi heibio, Effraim?
Ydw i'n mynd i adael i ti fynd, Israel?
Sut alla i dy roi heibio fel Adma?
Ydw i'n mynd i dy drin fel Seboïm? Ref
Na, dw i wedi newid fy meddwl!
Mae tosturi wedi cynnau'n fy nghalon.
9 Alla i ddim gadael llonydd i'm llid losgi.
Alla i ddim dinistrio Effraim yn llwyr!
Duw ydw i, nid dyn fel chi,
yr Un Sanctaidd – dw i ddim am ddod i ddinistrio.
a byddan nhw'n ei ddilyn eto.
Pan fydd e'n rhuo, bydd ei blant yn dod
o'r gorllewin yn llawn cyffro.
11 Dod ar frys fel adar o'r Aifft,
neu golomennod yn hedfan o Asyria.
“Bydda i'n eu casglu nhw'n ôl i'w cartrefi.”
—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.12 Ac eto celwydd Effraim sydd o'm cwmpas;
dydy pobl Israel yn gwneud dim byd ond twyllo.
Ac mae Jwda'n crwydro yn ôl ac ymlaen oddi wrth Dduw –
yr Un Sanctaidd, sydd mor ffyddlon.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity