|
|
1 Mae Effraim Ref yn rhedeg ar ôl cysgodion –
mae fel ffŵl sy'n dyheu am wynt poeth y dwyrain!
Dim ond twyllo diddiwedd, a dinistr yn ei ddilyn.
Mae'n gwneud cytundeb gydag Asyria,
ac wedyn yn anfon olew olewydd yn dâl i'r Aifft!
ARGLWYDD am ddwyn achos yn erbyn Jwda:bydd yn cosbi pobl Jacob am y ffordd maen nhw wedi ymddwyn;
talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi'i wneud.
3 Daliodd ei frawd yn ôl yn y groth,Croes
a hyd yn oed ymladd gyda Duw fel oedolyn!Croes
4 Reslo gydag angel heb golli –
crio a pledio arno i'w fendithio.
Dyma Duw yn ei gyfarfod yn Bethel
a siarad ag e ynoCroes –
ARGLWYDD! Y Duw hollbwerus!Yr
ARGLWYDD ydy ei enw am byth!6 Rhaid i ti droi'n ôl at Dduw! –
byw bywyd o gariad a chyfiawnder,
a disgwyl yn ffyddiog am dy Dduw.
7 Fel masnachwyr gyda chlorian sy'n twyllo,
maen nhw wrth eu boddau'n manteisio.
8 Ac mae Effraim yn brolio: “Dw i'n gyfoethog!
Dw i wedi gwneud arian mawr!
A does neb yn gallu gweld y twyll;
neb yn gweld fy mod yn euog o unrhyw bechod.”
ARGLWYDD dy Dduwddaeth â ti allan o wlad yr Aifft.
Dw i'n mynd i wneud i ti fyw mewn pebyll eto,
fel pan wnes i dy gyfarfod yn yr anialwch.Croes
10 Dw i wedi siarad drwy'r proffwydi –
mewn gweledigaethau a negeseuon.”
11 Ydy Gilead yn addoli eilunod?
Ydy, a does dim dyfodol i'w phobl!
Ydyn nhw'n aberthu teirw yn Gilgal?
Ydyn, ond bydd eu hallorau fel pentwr o gerrig
mewn cae wedi'i aredig!
12 Roedd rhaid i Jacob Ref ddianc i wlad Aram Ref Croes –
gweithiodd Israel fel gwas i gael gwraig,
a chadw defaid i dalu amdani.
ARGLWYDD broffwydi arwain Israel allan o'r Aifft,Croes
ac i'w cadw nhw'n fyw yn yr anialwch.
14 Ond mae Effraim wedi'i bryfocio i ddigio.
Bydd ei Feistr yn ei ddal yn gyfrifol am y tywallt gwaed,
ac yn gwneud iddo dalu am fod mor ddirmygus.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity