|
|
4 “Dw i'n mynd i'w gwella o'u gwrthgilio,
a'u caru nhw'n ddiamod.
Dw i'n mynd i droi cefn ar fy llid.
5 Bydda i fel gwlith i Israel –
bydd hi'n blodeuo fel saffrwn,
a bydd ganddi wreiddiau dwfn fel coed Libanus. Ref
bydd yn hardd fel coeden olewydd,
a bydd ei harogl yn hyfryd fel fforestydd Libanus.
7 Bydd pobl yn byw eto dan ei chysgod.
Bydd fel ŷd yn tyfu neu winwydden yn lledu;
bydd yn enwog fel gwin Libanus.
8 Fydd gan Effraim Ref ddim i'w wneud ag eilunod byth eto!
Bydda i'n ateb ei weddi ac yn gofalu amdano.
Dw i fel coeden binwydd fytholwyrdd,
bydda i'n rhoi ffrwyth i chi drwy'r flwyddyn.”
9 Pwy sy'n ddoeth? Bydd e'n deall.
Pwy sy'n gall? Bydd e'n gwybod.
Mae ffyrdd yr
ARGLWYDD yn iawn –bydd pobl gyfiawn yn eu dilyn,
ond y rhai sy'n gwrthryfela yn baglu.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity