HOSEA 3
Cariad Duw yn cynnig gobaith
1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i:
“Dos, a dangos gariad at dy wraig eto, er bod ganddi gariad arall a'i bod yn anffyddlon i ti. Dyna'n union fel mae'r ARGLWYDD yn caru pobl Israel, er eu bod nhw'n troi at eilun-dduwiau ac yn offrymu teisennau ffrwyth melys iddyn nhw.”
2 Felly dyma fi'n mynd a thalu un deg pump darn arian a chan cilogram o haidd amdani.
3 A dyma fi'n dweud wrthi, “O hyn allan ti'n mynd i aros gyda mi. Ti ddim i weithio fel putain na chael rhyw gydag unrhyw ddyn, hyd yn oed gyda fi.”
4 Mae pobl Israel yn mynd i fod am amser hir heb frenin nac arweinydd eu hunain, heb fedru aberthu, heb golofnau cysegredig, heb arweiniad offeiriad nac eilun-ddelwau teuluol.
5 Ond wedyn yn y dyfodol bydd pobl Israel yn troi yn ôl at yr ARGLWYDD eu Duw a'u brenin o deulu Dafydd. Bryd hynny byddan nhw'n plygu i'r ARGLWYDD a'i barchu, ac yn profi eto mor dda ydy e.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity