|
|
4 Peidiwch pwyntio'r bys at bobl eraill, a rhoi'r bai arnyn nhw.
Mae fy achos yn eich erbyn chi offeiriaid!
5 Byddwch yn baglu yng ngolau dydd,
a bydd eich proffwydi ffals yn baglu gyda chi yn y nos.
Bydd dychryn yn eich dinistrio! Ref
6 Mae fy mhobl yn cael eu dinistrio am nad ydyn nhw'n fy nabod i.
Dych chi offeiriaid ddim eisiau fy nabod i,
felly dw i ddim eisiau chi yn offeiriaid.
Dych chi wedi gwrthod dysgeidiaeth eich Duw
felly dw i'n mynd i wrthod eich plant chi.
7 Wrth i'r offeiriaid ennill mwy a mwy o gyfoeth
maen nhw'n pechu mwy yn fy erbyn i –
cyfnewid yr Un Gwych am beth gwarthus!
8 Maen nhw'n bwyta offrymau dros bechod fy mhobl!
Maen nhw eisiau i'r bobl bechu!
9 Ac mae'r bobl yn gwneud yr un fath â'r offeiriaid –
felly bydda i'n eu cosbi nhw i gyd am y drwg;
talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi'i wneud.
10 Byddan nhw'n bwyta, ond byth yn cael digon.
Byddan nhw'n cael rhyw, ond ddim yn cael plant.
Maen nhw wedi troi cefn ar yr
ARGLWYDDa bwrw ati i buteinio.
11 Mae gwin wedi drysu fy mhobl!
12 Maen nhw'n troi at ddarn o bren am help,
a disgwyl ateb gan ffon hud rhyw swynwr!
Mae'r obsesiwn am ryw wedi gwneud iddyn nhw golli'r ffordd,
ac maen nhw'n puteinio eu hunain i ffwrdd oddi wrth eu Duw.
13 Maen nhw'n aberthu ar gopa'r mynyddoedd,
a llosgi arogldarth ar ben y bryniau –
dan gysgod hyfryd rhyw dderwen,
coeden boplys neu derebinth.
A'r canlyniad? Mae eich merched yn buteiniaid,
a'ch merched-yng-nghyfraith yn godinebu!
14 Ond pam ddylwn i gosbi dy ferched am buteinio,
a'th ferched-yng-nghyfraith am odinebu?
Mae'r dynion yr un fath! – yn ‛addoli‛ gyda hwren,
ac yn aberthu gyda phutain teml! Ref
‘Bydd pobl ddwl yn mynd i ddistryw!’
15 Er dy fod ti, O Israel, yn godinebu,
boed i Jwda osgoi pechu.
Paid mynd i gysegr Gilgal! Paid mynd i fyny i Beth-afen! Ref
Paid tyngu llw, “Fel mae'r
ARGLWYDD yn fyw …”16 Mae Israel anufudd yn ystyfnig fel mul! Ref
Cyn bo hir bydd yr
ARGLWYDD yn ei gyrru allan i bori,a bydd fel oen bach ar dir agored!
17 Mae pobl Effraim Ref yn briod ag eilunod –
gad iddyn nhw fod!
18 Ar ôl yfed yn drwm nes bod dim diod ar ôl,
maen nhw'n troi at buteiniaid cwltig
ac yn joio eu mochyndra digywilydd!
19 Ond bydd corwynt yn eu cipio,
a bydd eu haberthau'n achos cywilydd go iawn.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity