|
|
Daliwch sylw, bobl Israel!
Clywch, chi'r teulu brenhinol!
Mae'r farn ar fin dod arnoch!
Dych chi wedi bod fel trap i bobl Mitspa,
a rhwyd i ddal pobl Tabor;
2 yn wrthryfelwyr wedi achosi lladdfa ddifrifol,
a bydda i'n eich cosbi chi i gyd.
3 Dw i'n gwybod yn iawn am Effraim. Ref
Dydy Israel ddim yn gallu cuddio oddi wrtho i!
Rwyt ti Effraim wedi troi at buteinio –
mae Israel wedi'i llygru'n llwyr.
4 Mae eu drygioni'n eu rhwystro
rhag troi yn ôl at eu Duw.
Mae puteindra ysbrydol wedi'u meddiannu,
a dŷn nhw ddim yn nabod yr
ARGLWYDD.5 Mae balchder Israel yn tystio yn ei herbyn.
Bydd Israel ac Effraim yn syrthio o achos eu drygioni.
A bydd Jwda, hefyd, yn syrthio gyda nhw.
6 Wedyn, byddan nhw'n mynd at yr
ARGLWYDDgyda'i defaid a'u geifr a'u bustych.
Ond bydd yn rhy hwyr! Bydd e wedi'u gadael nhw.
ARGLWYDDac maen nhw wedi cael plant siawns.
Yn fuan iawn, ar ŵyl y lleuad newydd,
byddan nhw a'u tir yn cael eu difa.
8 Chwythwch y corn hwrdd Ref yn Gibea!
Canwch utgorn yn Rama!
Rhybuddiwch bobl Beth-afen! Ref
Ti fydd gyntaf, Benjamin!
9 Bydd Effraim yn cael ei dinistrio ar ddydd y cosbi!
Mae beth dw i'n ddweud wrth lwythau Israel
yn mynd i ddigwydd.
10 Mae arweinwyr Jwda fel rhai sy'n symud terfyn i ddwyn tir;Croes
a bydda i'n tywallt fy llid arnyn nhw fel llifogydd!
11 Bydd Effraim Ref yn cael ei orthrymu,
a'i sathru pan fydda i'n barnu;
am ei fod wedi penderfynu dilyn eilunod diwerth.
12 Bydda i fel gwyfyn yn difa Effraim,
fel pydredd i bobl Jwda.
13 Pan welodd Effraim ei fod yn sâl,
a Jwda'n gweld ei ddolur,
dyma Effraim yn troi at Asyria
am help gan ‛y brenin mawr‛.
Ond dydy e ddim yn gallu dy helpu.
Fydd e ddim yn gwella dy glwyf!
14 Fi sy'n ymosod ar Effraim a Jwda,
fel llew yn rhwygo'i ysglyfaeth.
Fi – ie, fi! Bydda i'n eu rhwygo nhw'n ddarnau
a'u cario nhw i ffwrdd.
Fydd neb yn gallu eu helpu.
15 Bydda i'n mynd yn ôl i'm ffau
nes byddan nhw'n cyfaddef eu bai.
Wedyn, byddan nhw'n chwilio amdana i;
yn eu helbul, byddan nhw'n chwilio'n daer amdana i:
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity