|
|
1 “Dewch! Gadewch i ni droi'n ôl at yr
ARGLWYDD.Fe sydd wedi'n rhwygo'n ddarnau, ond bydd e'n iacháu!
Fe sydd wedi'n hanafu ni, ond bydd e'n gwella'r briwiau!
2 Bydd yn rhoi bywyd newydd i ni mewn ychydig;
bydd wedi'n codi ni'n ôl yn fyw mewn dim o dro. Ref
Cawn fyw yn ei gwmni,
3 a'i nabod yn iawn.Gadewch i ni fwrw iddi i gydnabod yr
ARGLWYDD.Bydd yn dod allan i'n hachub, mor sicr â bod y wawr yn torri.
Bydd yn dod fel glaw y gaeaf neu gawodydd y gwanwyn i ddyfrio'r tir.”
4 O, beth wna i gyda chi, bobl Effraim? Ref
Beth wna i gyda chi, bobl Jwda?
Mae eich ffyddlondeb fel tarth y bore,
neu'r gwlith sy'n diflannu'n gynnar.
5 Dyna pam dw i wedi anfon y proffwydi i'ch taro.
Dw i'n mynd i'ch lladd chi fel y dwedais wrth gyhoeddi barn.
Mae'r farn yn siŵr o ddod, fel golau'r wawr.
6 Ffyddlondeb sy'n fy mhlesio, nid aberthau!Croes
Nabod Duw, nid dim ond offrwm i'w losgi.
7 Maen nhw wedi sathru fy ymrwymiad fel Adda!
Maen nhw wedi fy mradychu i!
8 Mae Gilead yn dref o bobl ddrwg,
ac mae olion traed gwaedlyd yn staen ar ei strydoedd.
9 Mae'r urdd o offeiriaid fel gang o ladron,
yn cuddio i ymosod ar bobl –
yn llofruddio ar y ffordd i Sichem.
Maen nhw'n gwneud cymaint o ddrwg!
10 Dw i wedi gweld pobl Israel
yn gwneud pethau cwbl ffiaidd!
Mae Effraim yn puteinio –
mae Israel wedi'i llygru'n llwyr!
11 Mae cynhaeaf barn yn dod i tithau, Jwda!
Dw i eisiau i'm pobl lwyddo eto;
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity