|
|
1 Canwch y corn hwrdd! Ref Rhybuddiwch y bobl!
Mae eryr yn hofran uwch teml yr
ARGLWYDD.Maen nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad gyda mi,
ac wedi gwrthryfela yn erbyn fy nghyfraith.
“O Dduw, dŷn ni'n dy gydnabod di!”
3 Ond mae'n rhy hwyr! Mae Israel wedi gwrthod y da, Ref
a bydd y gelyn yn ei erlyn.
4 Maen nhw wedi dewis brenhinoedd
heb ofyn i mi.
Maen nhw wedi urddo arweinwyr
heb i mi gytuno.
Maen nhw wedi gwneud eilunod
gyda'r arian a'r aur oedd ganddyn nhw –
ffordd dda i ddinistrio'i hunain!
5 Dw i wedi gwrthod tarw Samaria.Croes
Dw i wedi digio'n lân gyda nhw!
Fydd hi ddim yn hir nes i mi eu cosbi nhw,
6 er mai pobl Israel ydyn nhw!
Cafodd y peth hwnnw ei greu gan grefftwr –
nid Duw ydy e!
Felly, bydd tarw Samaria
yn cael ei falu'n ddarnau mân!
ond byddan nhw'n medi corwynt!
‛Dydy ŷd heb ben ddim yn rhoi blawd.‛
Hyd yn oed petai'n rhoi cnwd,
pobl estron fydd yn ei fwyta.
8 Bydd Israel wedi'i llyncu gan y cenhedloedd;
bydd fel darn o sbwriel wedi'i daflu i ffwrdd.
9 Maen nhw wedi mynd i fyny i Asyria –
fel asyn gwyllt yn crwydro'n unig.
Mae Effraim Ref wedi bod yn talu am ei chariadon.
10 Am ei bod nhw wedi talu am gariad y cenhedloedd,
dw i'n mynd i'w casglu nhw i gael eu barnu,
a byddan nhw'n gwywo dan orthrwm y brenin mawr.
11 Er fod Effraim wedi adeiladu allorau i aberthu dros bechod,
maen nhw wedi'u troi yn allorau i bechu!
12 Er fy mod wedi rhoi cyfreithiau manwl iddyn nhw,
maen nhw'n trin y cwbl fel rhywbeth hollol ddieithr!
13 Maen nhw'n dod i offrymu aberthau
er mwyn cael bwyta'r cig!
Dydy'r
ARGLWYDD ddim yn eu derbyn nhw!Yn fuan iawn, bydd yn delio gyda'i pechodau nhw,
ac yn eu cosbi nhw;
byddan nhw'n mynd yn ôl i'r Aifft! Ref
14 Mae Israel wedi anghofio'i Chrëwr.
Mae Jwda wedi adeiladu palasau,
a chryfhau ei chaerau amddiffynnol. Ref
Ond bydda i'n anfon tân i'w threfi,
ac yn llosgi ei phalasau.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity