|
|
a gweiddi'n llawen fel y paganiaid;
ti wedi bod yn anffyddlon i dy Dduw.
Ti'n hoffi derbyn cyflog putain
wrth ‛addoli‛ ar bob llawr dyrnu!
2 Fydd dy gynhaeaf ŷd ddim digon i fwydo dy bobl,
a bydd y grawnwin o'r gwinllannoedd yn dy siomi.
3 Fyddan nhw ddim yn aros ar dir yr
ARGLWYDD.Bydd Effraim Ref yn mynd yn ôl i'r Aifft,
ac yn bwyta bwyd aflan Ref yn Asyria.
4 Fyddan nhw ddim yn gallu tywallt gwin i'r
ARGLWYDD,nac offrymu aberthau iddo.
Bydd yr aberthau'n aflan,
fel bwyd pobl sy'n galaru;
bydd pawb sy'n ei fwyta'n cael eu llygru.
Bydd eu bwyd i'w boliau'n unig;
fydd e ddim yn mynd yn agos i deml yr
ARGLWYDD.5 Felly, beth wnewch chi ar Ddydd Gŵyl –
sut fyddwch chi'n dathlu Gwyliau'r
ARGLWYDD? Ref6 Hyd yn oed os byddan nhw'n dianc o'r dinistr,
bydd yr Aifft yn cael gafael ynddyn nhw,
a Memffis Ref yn eu claddu nhw.
Bydd chwyn yn chwennych eu trysorau
a mieri'n meddiannu eu tai.
7 Mae cyfnod y cosbi wedi cyrraedd!Croes
Mae dydd y farn wedi dod!
Mae'n bryd i Israel wybod!
“Mae'r proffwyd yn hurt!
Mae'r dyn ysbrydol yn wallgof!”
Ti wedi pechu gymaint,
ac mor llawn casineb!
dros Effraim ar ran Duw.
Ond mae trapiau'n cael eu gosod ar ei lwybrau;
a dim byd ond casineb ato yn nheml ei Dduw.
9 Mae'r llygredd yn mynd o ddrwg i waeth,
fel digwyddodd yn Gibea gynt. Ref
Bydd Duw yn delio gyda'u drygioni
ac yn eu cosbi am eu pechodau.
fel dod o hyd i rawnwin yn yr anialwch.
I mi, roedd dy hynafiaid
fel y ffrwyth cyntaf i dyfu ar goeden ffigys.
Ond dyma nhw'n cyrraedd Baal-peor,
a rhoi eu hunain i eilun cywilyddusCroes –
cyn pen dim aethon nhw mor ffiaidd
â'r eilun roedden nhw'n ei addoli.
Ond beth roi di iddyn nhw? –
Rho grothau sy'n erthylu, a bronnau wedi sychu!
15 “Am wneud yr holl ddrwg yn Gilgal, Ref
dw i'n eu casáu nhw.
Dw i'n mynd i'w gyrru nhw allan o'm tir
o achos eu holl ddrygioni.
Dw i ddim yn eu caru nhw bellach;
mae eu swyddogion i gyd mor ystyfnig.
16 Bydd pobl Effraim yn cael eu taro'n galed –
mae'r gwreiddyn wedi sychu;
a does dim ffrwyth yn tyfu.
A hyd yn oed petaen nhw'n cael plant,
byddwn i'n lladd eu babis bach del!”
17 Bydd fy Nuw yn eu gwrthod nhw
am beidio gwrando arno;
ac yn gwneud iddyn nhw grwydro
ar goll ymhlith y cenhedloedd!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity