|
|
1 Gwae'r rhai sy'n rhoi dyfarniad anghyfiawn
ac ysgrifennu deddfau sy'n gormesu pobl.
2 Maen nhw'n dwyn cyfiawnder oddi ar bobl dlawd,
a chymryd eu hawliau oddi ar yr anghenus.
Maen nhw'n dwyn oddi ar y gweddwon,
ac yn ysbeilio plant amddifad!
3 Beth wnewch chi ar ddiwrnod y cosbi,
pan fydd dinistr yn dod o bell?
At bwy fyddwch chi'n rhedeg am help?
I ble'r ewch chi i guddio eich trysor?
4 Bydd rhaid crymu gyda'r carcharorion eraill,
neu syrthio gyda phawb arall sy'n cael eu lladd!
Eto, wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,
Roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
5 Gwae Asyria, y wialen dw i'n ei defnyddio pan dw i'n ddig.Croes
Mae'r ffon sy'n dangos fy mod i wedi gwylltio yn ei llaw hi.
6 Dw i'n ei hanfon yn erbyn cenedl annuwiol,
ac yn dweud wrthi am ymosod ar y bobl sy'n fy nigio i,
i ysbeilio a rheibio a'u sathru dan draed fel baw ar y stryd.
7 Ond dim dyna ydy bwriad Asyria –
rhywbeth arall sydd ganddi hi mewn golwg.
Ei bwriad hi ydy dinistrio,
a difa gwledydd yn llwyr – llawer ohonyn nhw!
8 Mae'n meddwl,“Mae brenhinoedd wedi dod yn swyddogion i mi.
9 Onid ydy Calno yr un fath â Carcemish,
a Chamath fel Arpad,
a Samaria fel Damascus? Ref
10 Gan fy mod i wedi cael gafael
yn y gwledydd hynny a'u heilun-dduwiau –
gwledydd oedd â llawer mwy o ddelwau
na Jerwsalem a Samaria –
11 bydda i'n gwneud yr un peth i Jerwsalem a'i heilunod
ag a wnes i i Samaria a'i delwau.”
12 Ond pan fydd y Meistr wedi gorffen delio gyda Mynydd Seion a Jerwsalem, bydd e'n cosbi brenin Asyria am fod mor falch ac mor llawn ohono'i hun. 13 Am feddwl fel hyn:“Dw i wedi gwneud y cwbl am fy mod i mor gryf.
Roedd gen i strategaeth glyfar,
a dw i wedi dileu ffiniau gwledydd.
Dw i wedi cymryd eu trysorau nhw,
ac wedi bwrw brenhinoedd i lawr fel tarw.
14 Cefais afael ar gyfoeth y gwledydd
mor hawdd â dwyn wyau o nyth:
heb neb yn fflapio'i adenydd
nac yn agor ei big i drydar.”
15 Ydy bwyell o unrhyw werth heb rywun i'w thrin?
Ydy llif yn bwysicach na'r un sy'n ei defnyddio?
Fel petai gwialen yn chwifio'r dyn sy'n ei chodi!
Fel petai ffon yn codi'r person sydd ddim yn bren!
ARGLWYDD hollbwerus—yn anfon afiechyd fydd yn nychu ei filwyr iach;
bydd twymyn yn taro'i ysblander
ac yn llosgi fel tân.
17 Bydd Golau Israel yn troi'n dân,
a'r Un Sanctaidd yn fflam.
Bydd yn llosgi'r drain a'r mieri mewn diwrnod,
18 a dinistrio'r goedwig a'r berllan yn llwyr.
Bydd fel bywyd dyn sâl yn diflannu.
19 Bydd cyn lleied o goed ar ôl,
bydd plentyn bach yn gallu eu cyfri!
fydd y rhai sydd ar ôl yn Israel
a'r rhai hynny o bobl Jacob sydd wedi dianc
ddim yn pwyso ar y genedl wnaeth eu gorthrymu nhw;
Byddan nhw'n pwyso'n llwyr
ar yr
ARGLWYDD, Un sanctaidd Israel.ie, rhan fechan o Jacob
yn troi yn ôl at y Duw cryf.
22 Israel, hyd yn oed petai dy bobl
mor niferus â thywod y môr,
dim ond nifer fechan fydd yn dod yn ôl.
Mae'r dinistr yn sicr.
Mae'r gosb sydd wedi'i haeddu yn dod fel llifogydd!
ARGLWYDD hollbwerus,yn barod i ddod â'r dinistr sydd wedi'i ddyfarnu ar y tir.
24 Felly, dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus, yn ei ddweud: “O fy mhobl, sy'n byw yn Seion, peidiwch bod ag ofn Asyria – er iddi dy daro di gyda'i gwialen a dy fygwth gyda'i ffon fel y gwnaeth yr Eifftiaid. 25 Yn fuan iawn bydd fy llid wedi'i dawelu, a bydda i'n troi i'w dinistrio nhw.” 26 Bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn chwifio'i chwip uwch eu pennau, fel y gwnaeth pan drawodd Midian wrth Graig Oreb. Bydd yn codi ei wialen fel y gwnaeth dros yr Eifftiaid wrth y môr. 27 Bryd hynny,bydd y pwysau'n cael ei symud oddi ar dy ysgwyddau di,
a bydd iau Asyria'n cael ei thorri oddi ar dy war
am ei fod mor hunanfodlon.
28 Daeth y gelyn ac ymosod ar Aiath, Ref
ac yna aeth ymlaen i Migron
cyn paratoi ei gêr yn Michmas.
ac aros yn Geba Ref dros nos.
Roedd Rama wedi dychryn,
a phobl Gibea, tref Saul, yn ffoi.
Gwrando'n astud, Laisha!
Ateb hi, Anathoth!”
a phobl Gebîm yn cuddio.
32 Heddiw mae'r gelyn yn Nob Ref
yn ysgwyd ei ddwrn bygythiol
yn erbyn Mynydd Seion
a bryn Jerwsalem!
ARGLWYDD hollbwerus—yn mynd i hollti canghennau'r coed gyda nerth brawychus.
Bydd yn torri'r coed talaf i lawr,
a bydd y rhai uchel yn syrthio.
34 Bydd yn torri drwy ddrysni'r goedwig gyda bwyell,
a bydd coed mawr Libanus yn cwympo.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity