|
|
“Dw i eisiau diolch i ti, O
ARGLWYDD!Er dy fod wedi digio gyda fi,
rwyt wedi troi oddi wrth dy lid a'm cysuro.
2 Edrychwch ar y Duw sydd wedi fy achub i!
Bydda i'n ei drystio, a fydd gen i ddim ofn.
Yr
ARGLWYDD sy'n rhoi nerth a chân i mi!Yr
ARGLWYDD sydd wedi fy achub i.”Croes3 Byddwch yn codi dŵr yn llawen
o ffynhonnau achubiaeth.
4 Byddwch yn dweud bryd hynny:
“Diolchwch i'r
ARGLWYDD, a galw ar ei enw.Dwedwch wrth bobl y gwledydd beth wnaeth e;
cyhoeddwch fod ei enw wedi'i godi'n uchel.
ARGLWYDD,am iddo wneud peth mawr!
Gwnewch yn siŵr fod y byd i gyd
yn gwybod am y peth!
chi sy'n byw yn Seion!
Mae'r Un sydd yn eich plith yn fawr –
Un Sanctaidd Israel.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity