|
|
2 “Codwch faner ar ben mynydd,
a gweiddi'n uchel arnyn nhw!
Codwch eich llaw i'w galw
i mewn drwy giatiau'r bobl bwysig!
3 Dw i wedi rhoi gorchymyn i'r rhai dw i wedi'u dewis,
a galw fy milwyr cryfion i ddangos mor ddig dw i;
milwyr balch sy'n brolio.”
4 Gwrandwch! Mae sŵn cynnwrf ar y mynyddoedd –
fel byddin enfawr;
Gwrandwch! Sŵn twrw'r gwledydd!
Cenhedloedd yn casglu at ei gilydd!
Mae'r
ARGLWYDD hollbwerusyn casglu byddin i ryfel!
y tu hwnt i'r gorwel –
yr
ARGLWYDD ac arfau ei lid,yn dod i ddinistrio'r holl dir!
ARGLWYDD yn agos!CroesMae'n dod fel dinistr oddi wrth yr Un sy'n rheoli popeth.
7 Felly, bydd pob llaw yn llipa,
a phawb wedi digalonni
8 a'u llethu gan ddychryn.Bydd poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw,
a byddan nhw'n gwingo mewn poen
fel gwraig yn cael babi.
Byddan nhw'n syllu'n syn ar ei gilydd,
a'u hwynebau'n gwrido o gywilydd.
ARGLWYDD yn dod;dydd creulon ei lid ffyrnig a thanbaid,
i droi'r ddaear yn anialwch diffaith,
a chael gwared â phechaduriaid ohoni.
ddim yn rhoi golau.
Bydd yr haul yn dywyll pan fydd yn codi,
a'r lleuad ddim yn llewyrchu.
11 “Bydda i'n cosbi'r byd am ei holl ddrygioni,
a phobl ddrwg am eu pechod.
Bydda i'n rhoi diwedd ar falchder pobl haerllug,
ac yn torri crib y rhai creulon.
12 Bydd pobl yn fwy prin nag aur pur –
yn fwy prin nag aur Offir. Ref
13 Bydda i'n gwneud i'r awyr grynu,
ac i'r ddaear ysgwyd o'i lle.”
Mae'r
ARGLWYDD hollbwerus yn barnuar ddiwrnod ei lid ffyrnig.
14 Bydd pawb yn troi at ei bobl ei hun
ac yn dianc i'w gynefin;
fel gasél yn dianc pan mae'n cael ei hela,
neu ddefaid ar wasgar a neb i'w casglu.
15 Bydd pob un sy'n cael ei ddarganfod yn cael ei drywanu,
a phob un sy'n cael ei ddal yn cael ei ladd â'r cleddyf.
16 Bydd eu plant bach yn cael eu curo i farwolaeth,
a'u lladd o flaen eu llygaid;
bydd eu cartrefi'n cael eu gwagio,
a'u gwragedd yn cael eu treisio.
dw i'n codi'r Mediaid Ref yn eu herbyn nhw.
Fydd arian ddim yn rhwystro'r rheiny,
nac aur yn eu denu i droi.
18 Bydd eu bwâu yn taro'r dynion ifanc i lawr.
Fydd dim tosturi at fabis bach,
a fyddan nhw ddim yn arbed bywyd y plant.”
19 Bydd Babilon, y deyrnas harddaf
– ysblander a balchder ei phobl –
wedi'i bwrw i lawr gan Dduw
fel Sodom a Gomorra.Croes
20 Fydd neb yn byw yno byth eto,
neb o gwbl ar hyd y cenedlaethau –
dim Bedowin yn codi ei babell,
na bugail yn gorffwys ei braidd.
21 Bydd ysbrydion yr anialwch yn gorwedd yno,
a'r tai yn llawn creaduriaid yn udo.
Bydd y dylluan yn byw yno,
a'r gafr-ddemoniaid yn llamu o gwmpas.Croes
22 Bydd bwganod yn sgrechian yn ei hadfeilion,
a siacaliaid yn ei phlastai.
Mae ei hamser bron ar ben;
fydd ei dyddiau ddim yn cael eu hestyn.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity