|
|
Do, cafodd ei dinistrio mewn noson,
cafodd Ar yn Moab ei difrodi'n llwyr.
Do, cafodd ei dinistrio mewn noson,
cafodd Cir yn Moab ei difrodi'n llwyr.
2 Maen nhw wedi mynd i'r deml,
ac i'r allor leol yn Dibon i wylo.
Mae Moab yn udo
am beth ddigwyddodd i Nebo a Medeba.
Mae pob pen yn foel, pob barf wedi'i siafio,
3 ac maen nhw'n gwisgo sachliain yn y strydoedd.
Mae pawb yn udo ac yn beichio crio
ar bennau'r tai ac yn y sgwariau.
4 Mae sgrechian yn Cheshbon ac Elealê,
ac mae'r sŵn i'w glywed mor bell â Iahats.
Felly, mae milwyr Moab yn gweiddi
a chrynu drwyddynt mewn ofn.
5 Mae fy nghalon yn gwaedu dros Moab –
a'r ffoaduriaid sy'n dianc i Soar ac Eglath-shalisheia.
Maen nhw'n wylo wrth ddringo llethr Lwchith.
Mae gwaedd dinistr yn codi ar y ffordd i Choronaïm.
6 Mae dyfroedd Nimrim wedi sychu;
mae'r glaswellt wedi gwywo a phob tyfiant yn methu.
Mae pob planhigyn wedi diflannu.
7 Felly, maen nhw'n cario'u cynilion a'u heiddo
dros Sychnant yr Helyg.
8 Ydy, mae sŵn y sgrechian wedi lledu
drwy wlad Moab i gyd:
mae'r udo i'w glywed mor bell ag Eglaim,
hyd yn oed yn Beër-elim!
9 Mae dyfroedd Dimon yn llawn gwaed.
Ond dw i'n mynd i wneud pethau'n waeth eto i Dimon:
bydd llew yn ymosod ar weddill Moab,
a'r rhai sydd ar ôl yn y tir.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity