|
|
1 Anfon oen oddi wrth lywodraethwr y wlad,
o Sela yn yr anialwch i Fynydd Seion hardd:
2 “Mae merched Moab wrth rydau Arnon,
fel adar wedi'u tarfu a'u gyrru o'r nyth.
3 Rhowch gyngor! Gwnewch benderfyniad!
Rhowch gysgod i ni rhag y gelyn,
fel oerni'r nos rhwng gwres dau ddydd.
Cuddiwch ein ffoaduriaid!
Peidiwch bradychu'r rhai sy'n ffoi.
4 Rhowch loches i ffoaduriaid Moab;
cuddiwch nhw rhag y gelyn sy'n dinistrio.”
Pan fydd yr un creulon wedi diflannu
a'r ysbeilio wedi dod i ben,
a'r gormeswyr wedi diflannu o'r tir,
5 bydd brenin dibynadwy yn cael ei orseddu –
un o deulu Dafydd.
Bydd yn teyrnasu'n ffyddlon,
bydd yn frwd dros gyfiawnder
ac yn hybu tegwch.
6 “Dŷn ni wedi clywed am falchder Moab –
mae ei phobl mor falch –
yn snobyddlyd, yn brolio ac mor haerllug,
ond mae ei brolio hi'n wag.”Croes
mae pawb yn Moab yn udo!
Mae'r rhai a anafwyd yn griddfan
am deisennau ffrwyth melys Cir-chareseth.
8 Mae'r ffrwyth ar gaeau teras Cheshbon
a gwinllannoedd Sibma wedi gwywo.
Mae'r rhai sy'n rheoli'r cenhedloedd
wedi torri eu gwinwydd gorau.
Roedden nhw'n cyrraedd hyd at Iaser,
ac yn ymestyn i'r anialwch;
roedd eu brigau wedi ymledu
ac yn cyrraedd at y môr.
9 Felly dw i'n wylo gyda Iaser dros winwydd Sibma.
Gwlychaf di â'm dagrau, Cheshbon ac Elealê,
am fod y gweiddi llawen am ffrwythau aeddfed
dy gynhaeaf wedi dod i ben.
10 Mae'r miri a'r hwyl wedi'i ysgubo i ffwrdd o'r gerddi.
Does dim canu na sŵn dathlu i'w glywed yn y gwinllannoedd.
Does neb yn sathru'r grawnwin i'r cafnau –
mae'r bwrlwm wedi tewi.
11 Felly mae fy mol yn murmur dros Moab fel tannau telyn,
a'r cwbl sydd yno i dros Cir-chareseth.
12 Pan mae pobl Moab yn mynd at yr allor leol,
ac yn gweddïo'n daer yn y cysegr,
fydd dim byd yn tycio.
13 Dyna'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Moab o'r blaen. 14 Ond mae'r ARGLWYDD yn dweud nawr: mewn tair blynedd union Ref bydd poblogaeth anferth Moab yn crebachu. Fydd dim hyd yn oed llond dwrn ar ôl – neb o bwys.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity