|
|
“Edrychwch ar Damascus!
Dydy hi ddim yn ddinas bellach –
pentwr o gerrig ydy hi!Croes
2 Bydd ei phentrefi yn wag am byth –
lle i breiddiau orwedd heb neb i'w dychryn.
3 Bydd trefi caerog Effraim, Ref
a sofraniaeth Damascus yn diflannu.
Bydd y rhai sydd ar ôl yn Syria
yn yr un cyflwr ‛gwych‛ ag Israel!”
—yr
ARGLWYDD hollbwerus sy'n dweud hyn.4 “Bryd hynny, bydd gwychder Jacob wedi pylu,
a'i gorff iach yn denau fel sgerbwd.
5 Yn lle bod fel cae o ŷd yn cael ei gynaeafu,
a breichiau'r medelwr yn llawn,
bydd fel y tywysennau sy'n cael eu lloffa yn Nyffryn Reffaïm –
6 dim ond ychydig loffion fydd ar ôl.
Bydd fel ysgwyd coeden olewydd,
a dim ond dau neu dri ffrwyth yn disgyn o'r brigau uchaf,
a phedair neu bump o'r prif ganghennau,”
—meddai'r
ARGLWYDD, Duw Israel.7 Bryd hynny, bydd pobl yn troi at eu Crëwr.
Byddan nhw'n edrych at Un Sanctaidd Israel am help,
8 yn lle syllu ar yr allorau godon nhw,
polion y dduwies Ashera a'r llestri dal arogldarth
– eu gwaith llaw eu hunain.
9 Bryd hynny, bydd eu trefi caerog fel yr adfeilion adawyd gan yr Amoriaid a'r Hefiaid pan ymosododd Israel arnyn nhw – wedi'u dinistrio'n llwyr.10 Rwyt wedi anghofio'r Duw wnaeth dy achub;
ac anwybyddu'r Graig – dy gaer ddiogel.
Felly rwyt yn trin gerddi i'r ‛Anwylyd‛, Ref
a plannu sbrigyn i dduw estron!
11 Ti'n codi ffens o'i gwmpas y diwrnod rwyt yn ei blannu;
ei weld yn blaguro y bore hwnnw
a disgwyl pentwr o gynhaeaf!
Ond y cwbl gei di fydd pryder a phoen na ellir ei gwella!
12 Gwae! Mae byddinoedd y gwledydd yn dod!
Maen nhw'n rhuo fel tonnau'r môr;
mae sŵn y rhuo fel sŵn dŵr mawr yn llifo.
13 Ond er bod y bobl yn rhuo fel sŵn dŵr mawr,
bydd Duw'n eu ceryddu, a byddan nhw'n ffoi.
Byddan nhw'n cael eu gyrru fel mân us o flaen y gwynt,
neu blu ysgall o flaen corwynt.
14 Fin nos, daw dychryn sydyn,
ond erbyn y bore does dim ar ôl.
Dyna fydd yn digwydd i'r rhai sy'n ein hysbeilio,
dyna sy'n disgwyl y rhai sy'n ein rheibio!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity