|
|
wrth afonydd dwyrain Affrica! Ref Croes
Mae'n anfon negeswyr dros y môr,
mewn cychod brwyn ar wyneb y dŵr.
at genedl o bobl dal gyda chroen llyfn –
pobl sy'n cael eu hofni ym mhobman;
cenedl gref sy'n hoffi ymladd,
sydd â'i thir wedi'i rannu gan afonydd.
3 “Gwrandwch, bawb drwy'r byd i gyd,
pawb sy'n byw ar y ddaear:
byddwch yn ei weld!
– fel baner ar ben y bryniau;
byddwch yn ei glywed!
– fel sŵn y corn hwrdd Ref yn cael ei chwythu!”
4 Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i:“Dw i'n mynd i aros yn llonydd ac edrych o'm lle –
fel tes yr haul yn tywynnu,
neu gwmwl gwlith yng ngwres y cynhaeaf.”
5 Adeg y cynhaeaf grawn, pan mae'r blagur wedi mynd,
a'r grawnwin yn dechrau aeddfedu,
bydd yn torri'r brigau gyda chyllell,
ac yn tocio'r canghennau sy'n lledu.
6 Bydd y cwbl yn cael ei adael
i'r eryrod ar y mynydd ac i'r anifeiliaid gwyllt.
Bydd yr adar yn byw drwy'r haf arnyn nhw,
a'r anifeiliaid gwyllt drwy'r gaeaf.
7 Bryd hynny bydd pobl dal gyda chroen llyfn
yn dod â rhoddion i'r
ARGLWYDD hollbwerus –pobl sy'n cael eu hofni ym mhobman,
cenedl gref sy'n hoffi ymladd,
sydd â'i thir wedi'i rannu gan afonydd.
Dônt i'r lle mae enw'r
ARGLWYDD hollbwerus arno:i Fynydd Seion.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity