|
|
Edrychwch! Mae'r
ARGLWYDD yn marchogaethar gwmwl cyflym, ac yn dod i'r Aifft.
Bydd eilunod diwerth yr Aifft yn crynu o'i flaen,
a bydd yr Eifftiaid yn digalonni.
2 “Achos bydd gwrthdaro sifil yn yr Aifft;
bydd yr Eifftwyr yn ymladd ei gilydd, un yn erbyn y llall,
dinas yn erbyn dinas, teyrnas yn erbyn teyrnas.
3 Bydd yr Aifft wedi anobeithio,
a bydda i wedi drysu ei chynlluniau.
Byddan nhw'n troi at eu heilunod diwerth am arweiniad,
ac at yr ysbrydegwyr, y dewiniaid a'r rhai sy'n dweud ffortiwn.
4 Bydda i'n rhoi'r Eifftiaid yn nwylo meistri gwaith caled,
a bydd brenin creulon yn teyrnasu arnyn nhw.”
—y Meistr, yr
ARGLWYDD hollbwerus sy'n dweud hyn.5 Bydd afon Nîl yn sychu a gwely'r afon yn grasdir sych.
6 Bydd y camlesi yn drewi, canghennau afon Nîl yn sychu,
a'r brwyn a'r hesg yn pydru.
7 Bydd y tir ar y delta yn ddiffaith,
a bydd popeth sy'n cael ei hau ar y lan
yn crino ac yn cael ei chwythu i ffwrdd –
fydd dim ar ôl.
8 Bydd y pysgotwyr yn galaru ac yn cwyno –
pawb sy'n taflu bachyn i'r afon,
neu'n bwrw rhwyd ar wyneb y dŵr.
9 Bydd y gweithwyr llin yn gofidio hefyd,
y rhai sy'n cribo a'r gwehyddion.
10 Bydd y rhai sy'n gwneud brethyn wedi'u llethu gan bryder,
a phawb sy'n cael eu cyflogi wedi torri eu calonnau.
11 Mae arweinwyr Soan Ref yn ffyliaid.
Mae cynghorwyr mwya doeth y Pharo
yn dweud pethau cwbl hurt!
Sut allwch chi ddweud wrth y Pharo,
“Dw i'n un o'r rhai doeth,
o urdd yr hen frenhinoedd”?
12 Ble maen nhw? Ble mae dy rai doeth di?
Gad iddyn nhw ddweud wrthot ti a deall
beth mae'r
ARGLWYDD hollbwerus yn bwriadu ei wneud i'r Aifft.13 Mae arweinwyr Soan yn ffyliaid,
ac arweinwyr Memffis Ref wedi'u twyllo;
Mae penaethiaid ei llwythau
wedi arwain yr Aifft ar gyfeiliorn.
ARGLWYDD wedi'i chymysgu a'i drysu,a gwneud iddi faglu dros bobman,
fel meddwyn yn mynd igam-ogam yn ei gyfog.
15 All neb wneud dim i helpu'r Aifft –
pen na chynffon, cangen balmwydd na brwynen.Croes
16 Bryd hynny bydd yr Eifftiaid yn wan fel merched. Byddan nhw'n crynu mewn ofn am fod yr ARGLWYDD hollbwerus yn codi ei law i'w taro nhw. 17 Bydd sôn am Jwda'n codi dychryn ar yr Aifft. Bydd pawb fydd yn cofio'i arwyddion, yn crynu wrth feddwl am beth mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn bwriadu ei wneud iddyn nhw. 18 Bryd hynny bydd pum tref yn yr Aifft yn siarad iaith Canaan ac yn tyngu llw o ffyddlondeb i'r ARGLWYDD hollbwerus. Dinas yr Haul Ref fydd enw un ohonyn nhw. 19 Bryd hynny bydd allor i'r ARGLWYDD yng nghanol yr Aifft, a cholofn wedi'i chysegru i'r ARGLWYDD ar y ffin. 20 Bydd yn arwydd i atgoffa'r Aifft pwy ydy'r ARGLWYDD hollbwerus. Pan fyddan nhw'n gweiddi ar yr ARGLWYDD am help yn erbyn y rhai sy'n eu gorthrymu nhw, bydd e'n anfon un i'w hachub nhw ac ymladd drostyn nhw. 21 Achos bydd yr ARGLWYDD yn datguddio'i hun i'r Eifftiaid, a byddan nhw'n dod i'w nabod e bryd hynny. Byddan nhw'n ei addoli gydag aberth ac offrwm o rawn, yn gwneud addunedau iddo, ac yn eu cadw. 22 Os bydd yr ARGLWYDD yn taro'r Aifft gyda phla, bydd yn ei tharo ac yna yn ei gwella. Os byddan nhw'n troi yn ôl at yr ARGLWYDD, bydd e'n ymateb iddyn nhw ac yn eu hiacháu nhw. 23 Bryd hynny, bydd priffordd o'r Aifft i Asyria. Bydd yr Asyriaid yn mynd i'r Aifft, a'r Eifftiaid yn mynd i Asyria, a bydd yr Eifftiaid a'r Asyriaid yn addoli gyda'i gilydd. 24 Bryd hynny, Israel fydd y trydydd partner gyda'r Aifft ac Asyria, a byddan nhw'n fendith ar y ddaear. 25 Bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn eu bendithio nhw, ac yn dweud, “Bendith ar yr Aifft, fy mhobl, ac ar Asyria, gwaith fy llaw, ac ar Israel, fy etifeddiaeth.”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity